Rhys Webb
Mewnwr Cymru Rhys Webb yw’r diweddaraf i ymestyn ei gytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru a’r Gweilch.
Webb, 27, yw’r ail i ymestyn ei gytundeb deuol ar ôl i’r maswr Dan Biggar ymestyn ei gytundeb deuol â’i ranbarth ac Undeb Rygbi Cymru (URC) allai redeg nes Cwpan Rygbi’r Byd yn 2019.
Dywedodd prif weithredwr URC, Martyn Phillips ei fod yn “wych gweld chwaraewr rhyngwladol arall yn ymestyn ei gytundeb ac ymrwymo i chwarae i’w rhanbarth a Chymru yn y dyfodol.”
“Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r rhanbarthau i sicrhau bode in chwaraewyr gorau yn aros yng Nghymru ac mae cytundeb Rhys yn dystiolaeth bellach bod y berthynas hon yn gweithio.”
Ychwanegodd Rhys Webb ei fod “wrth ei fodd” i ymestyn ei gytundeb deuol a’i fod am ganolbwyntio ar wella o anaf i’w ben-glin yn dilyn gem ym mis Medi.