Caerdydd 1–1 Nottingham Forest                                               

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi wrth i Gaerdydd groesawu Nottingham Forest i Stadiwm y Ddinas nos Fawrth.

Mae’r Adar Gleision yn aros yn ddegfed yn y Bencampwriaeth wrth i’w rhediad siomedig diweddar barhau.

Daeth y ddwy gôl yn y chwarter awr cyntaf. Rhwydodd Oliver Burk yn gelfydd gyda thu allan ei droed i roi’r ymwelwyr ar y blaen wedi naw munud.

Ond roedd y sgôr yn gyfartal bedwar munud yn ddiweddarach pan wyrodd ergyd Aron Gunnarsson i gefn y rhwyd.

Caerdydd a gafodd y gorau o’r gêm ond cafwyd perffodmiad da gan gyn chwaraewr Abertawe, Dorus de Vries, yn y gôl i Forest wrth i’r ymwelwyr gadw eu gafael ar bwynt.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Peltier, Ecuele Manga, Connolly, Fabio, Noone (Macheda 82′), Gunnarsson (Whittingham 70′), Ralls, Pilkington, Watt, Jones (Ameobi 65′)

Gôl: Gunnarsson 13’

Cerdyn Melyn: Fabio 87’

.

Nottingham Forest

Tîm: de Vries, Lichaj, Mills, Hobbs, Mancienne, Tesche, Trotter, Burke (Lansbury 85′), Williams (Osborn 71′), Ward, Blackstock (Castro Oliveira 80′)

Gôl: Burke 9’

Cerdyn Melyn: Ward 77’

.

Torf: 15,461