Halifax 2 – 0 Wrecsam

Rhoddwyd tolc pellach yng ngobeithion Wrecsam am ddyrchafiad gan Halifax, sydd yng ngwaelodion y Gynghres.

Roedd cyflymder yr ymosodwr Shaun Tuton yn ddraenen yn ystlys Wrecsam trwy’r prynhawn, ac ef sgoriodd y gyntaf i Halifax wedi 16 munud.

Erbyn yr hanner roedd y tîm cartref ymhellach ar y blaen diolch i Kingsley James wedi 38 munud.

I rwbio halen yn y briw i reolwr Wrecsam, Gary Mills, cafodd amddiffynwr yr ymwelwyr, Jamal Fyfield, ei yrru o’r cae ym munudau olaf y gêm.

Dyma’r ail ganlyniad siomedig mewn deuddydd i Wrecsam yn dilyn eu colled gartref yn erbyn Southport ddydd Sadwrn ac maen nhw bellach chwe phwynt yn brin o Dover sy’n bumed yn y gynghrair, sef safle isaf y gemau ail-gyfle.

Bydd cyfle i dîm Mills droi’r gornel ddydd Sadwrn nesaf pan fyddan nhw’n teithio i herio Southport unwaith eto.