Casnewydd 1 – 2 Plymouth

Colli oedd hanes Casnewydd yn yr ail adran, a hynny ar ôl arwain yn erbyn y tîm sydd ar frig y gynghrair.

Roedd rheolwr y tîm Cymreig, John Sheridan, yn siomedig â’r canlyniad yn erbyn ei gyn glwb ac yn credu mai Casnewydd oedd y tîm gorau ar y dydd.

Yn sicr roedd Casnewydd yn haeddu arwain ar yr hanner diolch i gôl Scott Boden wedi 24 munud.

Ond wedi cwta dair munud o’r ail hanner roedd yr ymwelwyr â Rodney Parade yn gyfartal diolch i beniad Jake Jervis.

Doedd hi ddim yn syndod gweld Plymouth yn mynd ar y blaen gydag ugain munud o’r gêm yn weddill diolch i Ryan Brunt,  er i’r tîm cartref ddal ati i frwydro, gwelwyd dau arbediad gwych gan Luke McCormick yn y gôl i Plymouth i sicrhau fod ei dîm yn ymestyn eu mantais ar y brig i dri phwynt.