Alan Curtis
Roedd trydedd llechen lân Abertawe yn olynol yn ddigon i sicrhau pwynt da i dîm Alan Curtis ar Barc Selhurst.

Ar ôl sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf ers ymadawiad Garry Monk fel rheolwr yn erbyn West Brom echddoe, bydd y rheolwr dros dros Curtis yn ddigon bodlon â phwynt yn erbyn tîm Crystal Palace sy’n gorwedd ym mhumed safle’r Uwch Gynghrair ar hyn o bryd.

Mae’r canlyniad yn gadael Abertawe gyda 19 pwynt, ac yn y pedwerydd safle ar bymtheg yn y gynghrair – dau bwynt yn glir o Newcastle sef yr uchaf o’r tri ar y gwaelod.

Byddan nhw nawr yn teithio i Old Trafford i herio Man Utd ddydd Sadwrn, ac yn gobeithio cynnal eu rhediad da ers i Curtis gymryd yr awenau.