Dreigiau Casnewydd Gwent 20–21 Gleision

Cipiodd y Gleision fuddugoliaeth ddramatig yn erbyn y Dreigiau ar Rodney Parade brynhawn Sul diolch i gic gosb hwyr Rhys Patchell.

Y Dreigiau a gafodd y gorau o’r gêm ddarbi de ddwyrain Cymru yn y Guinness Pro12, ond yr ymwelwyr aeth â hi wedi’r ddrama hwyr.

Hanner Cyntaf

Y Dreigiau a ddechreuodd orau heb os ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen gyda gôl adlam Dorian Jones wedi saith munud.

Daeth cais cyntaf y gêm yn fuan wedyn ac roedd Jones yn ei chanol hi eto, pas hir y maswr yn canfod Ashton Hewitt a’r asgellwr yn gorffen yn dda yn y gornel.

Daeth pwyntiau cyntaf y Gleision wedi ychydig llai na chwarter awr o chwarae, Rhys Patchell yn cau’r bwlch i bum pwynt gyda chic gosb.

Ychwanegodd Patchell gic gosb arall wedi hynny cyn i Jones adfer y pum pwynt o fantais gyda chic gosb i’r Dreigiau ym munud olaf yr hanner, 11-6 y sgôr ar yr egwyl.

Ail Hanner

Parhau i reoli a wnaeth y tîm cartref am ran helaeth o’r ail hanner ac ymestynnodd Jones y fantais yn raddol gyda dwy gic gosb.

Deffrodd y Gleision o’r diwedd yn y chwarter awr olaf ac roeddynt yn ôl o fewn sgôr wedi i gais cosb ddeillio o sgarmes symudol.

Cafodd Lewis Evans gerdyn melyn yn y digwyddiad hwnnw hefyd ond llwyddodd y Dreigiau i ymestyn y bwlch i saith pwynt serch hynny gyda chic gosb o droed yr eilydd, Jason Tovey.

Ond wnaeth y Gleision ddim rhoi’r ffidl yn y to, ac er na wnaeth eu holwyr gynnig fawr ddim trwy gydol y gêm fe lwyddodd Tom James i groesi am gais wedi bylchiad Dan Fish.

Byddai’r trosiad wedi dod â’r sgôr yn gyfartal ond methu gyda chynnig anodd o’r ystlys a wnaeth Patchell.

Cafodd y maswr gyfle arall serch hynny pan y dyfarnwyd cic gosb i’r Gleision mewn safle tebyg iawn ym munud olaf yr wyth deg. Doedd dim camgymeriad gan Patchell y tro hwn wrth iddo ennill y gêm i’w dîm.

20-21 y sgôr terfynol felly ac mae’r canlyniad yn codi’r Gleision dros y Dreigiau i’r nawfed safle yn nhabl y Pro12.

.

Dreigiau

Cais: Ashton Hewitt 11’

Ciciau Cosb: Dorian Jones 40’, 43’, 61’, Jason Tovey 73’

Gôl Adlam: Dorian Jones 7’

Cerdyn Melyn: Lewis Evans 67’

.

Gleision

Ceisiau: Cais Cosb 67’, Tom James 74’

Trosiad: Rhys Patchell 67’

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 14’, 23’, 80’