Bydd Toby Radford yn gyfrifol am feithrin doniau cricedwyr rhyngwladol y dyfodol yn Iwerddon (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Mae cyn-Brif Hyfforddwr Clwb Criced Morgannwg, Toby Radford wedi cael ei benodi’n Rheolwr Academi a Pherfformio Criced Iwerddon.

Dywedodd Radford fod y cyfle i hyfforddi o fewn sefydliad rhyngwladol yn un o’i brif resymau dros dderbyn y cynnig.

Prif ddiben Academi Shapoorji Pallonji Criced Iwerddon yw datblygu sgiliau cricedwyr rhyngwladol y dyfodol yn Iwerddon.

Mae Radford, a dreuliodd ddwy flynedd yn Brif Hyfforddwr gyda Morgannwg cyn ei ymadawiad ar ddiwedd y tymor diwethaf, eisoes wedi cael rhywfaint o brofiad ar y lefel rhyngwladol fel rhan o dimau hyfforddi India’r Gorllewin a Llewod Lloegr.

Yn enedigol o Gaerffili, gwnaeth Radford ei enw fel batiwr gyda Swydd Sussex a Swydd Middlesex cyn mentro i’r byd hyfforddi.

Mewn datganiad, roedd Radford yn llawn canmoliaeth ar gyfer tîm Iwerddon sydd, meddai, “wedi perfformio’n rhagorol ar y llwyfan rhyngwladol dros y degawd diwethaf.”

Yn y datganiad, dywedodd Criced Iwerddon fod penodi Radford yn gam arall ar y ffordd i geisio statws rhyngwladol llawn yn y tymor hir.

Dywedodd Radford: “Rwy wir yn edrych ymlaen at ymuno â Chriced Iwerddon ar adeg mor gyffrous i’r sefydliad.

“Mae Iwerddon wedi magu enw da a chryf am gynhyrchu cricedwyr ifainc o safon uchel ac mae’r tîm cenedlaethol wedi perfformio’n rhagorol ar y llwyfan rhyngwladol dros y degawd diwethaf.

“Rwy wedi bod yn angerddol am ddarganfod a hyfforddi talent ifanc erioed ac mae’r cyfle i gael gwneud hynny gyda Chriced Iwerddon wrth iddyn nhw geisio am statws Gemau Prawf llawn yn ysgogiad enfawr.”

Dywedodd Criced Iwerddon y bydd Radford yn “rhan hanfodol o oruchwylio datblygiad ein chwaraewyr ifainc mwyaf disglair a’r rheiny sydd ar gyrion y tîm cenedlaethol dros y blynyddoedd i ddod.”