Gareth Bale ac Aaron Ramsey
Deuddydd cyn y gêm bêl-droed fwyaf yn hanes y wlad mae Gareth Bale wedi addo na fydd Cymru yn “rhewi” wrth wynebu cewri Portiwgal.
Nos Fercher, fe fydd Cymru yn herio Portiwgal yn Lyon yn rownd gynderfynol Ewro 2016 ac, yn ôl, Gareth Bale dyw’r antur ddim ar ben eto.
“Dyma ein hamser ni – dy’n ni ddim eisiau iddi ddod i ben fan hyn – rydyn ni am barhau â’r daith a chadw i frwydro.”
“Dydyn ni ddim yn mynd i rewi, a gobeithio bydd ein gorau yn ddigon da ac y byddwn yn gallu gwneud mwy o hanes.”
Bale v Ronaldo
Doedd y chwaraewr 26 oed ddim yn ofni wynebu ei gydchwaraewr o Real Madrid chwaith, Cristiano Ronaldo.
“Wrth gwrs, mae’n chwaraewr ffantastig ac mae pawb yn gwybod beth mae’n medru gwneud.
“Rydyn ni’n gwybod fod gan nifer o’r timau rydyn ni wedi chwarae yn eu herbyn unigolion da ond inni – y tîm sy’n bwysig. Does dim sêr yn ein tîm ni, rydyn ni gyd yn gweithio fel un.”
Mae amheuaeth a fydd amddiffynnwr Portiwgal, Pepe, sydd hefyd yn chwarae i Real Madrid yn holliach i chwarae nos Fercher oherwydd anaf i’w glun, ac yn ôl Gareth Bale byddai hynny’n golled i Bortiwgal.
Yn y cyfamser, mae Aaron Ramsey a Ben Davies o Gymru wedi’u gwahardd o’r gêm nos Fercher.
Ond, “mae hynna wedi rhoi mwy o gymhelliad inni ennill y rownd gynderfynol er mwyn chwarae eto yn y ffeinal,” meddai Gareth Bale.