Llwyddodd Clara Evans i redeg y marathon cyflymaf erioed gan Gymraes ym Marathon Valencia dros y penwythnos.
Cafodd Marathon Valencia ei gynnal ddydd Sul (Rhagfyr 3).
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ras wedi dod yn adnabyddus fel un sy’n cynnig cyfle da i redwyr dargedu eu hamseroedd cyflymaf dros y pellter o 26.2 milltir.
O ganlyniad, mae’r ras wedi denu mwy a mwy o redwyr pellter gorau’r byd, ac un o’r rheiny eleni oedd Clara Evans, orffennodd mewn amser trawiadol o ddwy awr, 25 munud a phedair eiliad (amser swyddogol).
Roedd hyn yn ddigon i dorri’r record Gymreig gafodd ei gosod gan Natasha Cockram yn yr un ras y llynedd, sef 2:26:14.
Gemau Olympaidd nesaf?
Daw Clara Evans o Henffordd yn wreiddiol, ond mae hi bellach yn aelod o glwb Roadents Pontypridd.
Roedd yr amser redodd hi ddydd Sul yn naid sylweddol o’i hamser gorau blaenorol dros bellter y marathon, sef 2:31:19 redodd hi yn Rotterdam yn 2021.
Ond ar ôl gweld ei hamseroedd dros y 10k a Hanner Marathon yn cyflymu tipyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf, roedd popeth yn awgrymu y gallai chwalu ei hamser dros y marathon hefyd.
Bu iddi hefyd gynrychioli Cymru ym marathon Gemau’r Gymanwlad yn Birmingham y llynedd, gan orffen yn y nawfed safle mewn 2:38:03.
Roedd hi’n ddeunawfed yn ras y merched ar y dydd, sy’n adlewyrchu dyfnder safon y ras, ac un safle’n uwch na’r Saesnes Lily Partidge (2:25:12).
Roedd newyddion da pellach i’r ddwy, gan fod eu hamseroedd yn gynt na’r amser sydd wedi’i osod fel safon gan dîm Prydain ar gyfer y marathon yng Ngemau Olympaidd Paris 2024.
Amseroedd da i’r dynion hefyd
Dau athletwr o Ethiopia oedd yn fuddugol – Sisay Lemma ymysg y dynion mewn 2:01:48, a Worknesh Degafa o ran y merched mewn 2:15:51.
Roedd canlyniad da iawn i redwr arall o Gymru, sef Dan Nash o Glwb Athletau Caerdydd, redodd ei amser gorau dros y marathon hyd yma, sef 2:15:22.
Roedd canlyniad ardderchog i Rhodri Owen, Cymro Cymraeg o glwb rhedeg Meirionnydd, redodd 2:21:23.
Dyma oedd ei farathon ffordd cyntaf, er iddo ddod yn ail ym Marathon Eryri y llynedd, sy’n farathon tirwedd cymysg.
Doedd cyn enillydd Marathon Eryri, a chyd-redwr Rhodri Owen gyda Meirionnydd, Russell Bentley, ddim yn rhy bell tu ôl iddo chwaith, mewn 2:23:31.