Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi diswyddo’r rheolwr Michael Duff ar ôl llai na chwe mis wrth y llyw.

Daw hyn ar ôl dechrau siomedig yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, lle maen nhw’n ddeunawfed ar ôl ennill dim ond un o’r wyth gêm ddiwethaf.

Mewn datganiad, dywed y clwb eu bod nhw wedi gorfod gwneud “penderfyniad anodd” yn sgil canlyniadau siomedig a diffyg cynnydd.

Duff yw’r rheolwr cyntaf ers Paul Clement yn 2017 i gael ei ddiswyddo, a’i gyfradd fuddugoliaethau o 26% yw’r waethaf ers Bob Bradley.

Mae’r is-reolwr Martin Paterson hefyd wedi gadael y clwb, ac mae Alan Sheehan bellach wrth y llyw dros dro.

Dywed y clwb eu bod nhw wrthi’n chwilio am reolwr newydd.

Pwy ddaw yn ei le?

Y ffefryn clir i olynu Michael Duff ar hyn o bryd yw’r Cymro Nathan Jones, gafodd ei ddiswyddo gan Southampton fis Chwefror.

Ymhlith yr enwau eraill sydd wedi’u crybwyll mae Chris Davies, cyn-hyfforddwr gydag Abertawe sydd bellach yn gweithio i Spurs; John Eustace, sydd wedi’i gysylltu â’r swydd yn y gorffennol; a Luke Williams, is-reolwr Russell Martin pan oedd hwnnw’n reolwr yn Stadiwm Swansea.com.