Bydd tîm pêl-droed merched Cymru’n gobeithio gorffen eu hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn gryf heno (nos Fawrth, Rhagfyr 5), wrth iddyn nhw groesawu’r Almaen i Stadiwm Swansea.com yn Abertawe.

Mae tîm Gemma Grainger wedi colli pob un o’u pum gêm ragbrofol hyd yn hyn, sy’n golygu y byddan nhw’n gostwng i Gynghrair B, tra bod eu gwrthwynebwyr yn anelu i orffen ar frig Grŵp A3.

Mae colledion Cymru i gyd wedi dod yn erbyn timau sydd uwch eu pennau ar y rhestr ddetholion, serch hynny.

Y timau

Bydd Cymru heb yr ymosodwraig Hannah Cain, oedd wedi dioddef anaf difrifol i’w choes yn y golled o 2-1 yn erbyn Gwlad yr Iâ yng Nghaerdydd ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.

Y tro diwethaf iddi ddiodde’r un anaf y llynedd, roedd hi allan o’r gêm am flwyddyn gyfan.

Bydd Cymru heb eu chwaraewyr canol cae, Carrie Jones ac Anna Filbey hefyd, ar ôl i’r ddwy daro yn erbyn ei gilydd wrth gynhesu cyn y gêm ddiwethaf, ac maen nhw’n dilyn y protocol cyfergyd.

Mae’r amddiffynwraig Esther Morgan allan ag anaf i’w ffêr.

Ond mae newyddion da i’r Almaen, sy’n croesawu eu capten Alexandra Popp yn ôl i’r garfan.