Daeth ymgyrch tîm pêl-droed merched Cymru i ben gyda gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn yr Almaen, wrth i dîm Gemma Grainger orffen heb fuddugoliaeth yn eu grŵp.
Roedd ychydig yn llai na 6,000 o gefnogwyr yn Stadiwm Swansea.com – sy’n record y tu allan i Gaerdydd ar gyfer gêm ryngwladol y merched.
Daeth tîm Gemma Grainger i mewn i’r gêm yn gwybod eu bod nhw’n chwarae er mwyn adfer hunan-barch yn unig, ar ôl gostwng o Gynghrair A, tra bod yr Almaen yn cwrso’r fuddugoliaeth er mwyn gorffen ar frig Grŵp A3.
Roedd Cymru heb Carrie Jones ac Anna Filbey, ac roedd Hannah Cain hefyd wedi dioddef anaf difrifol cyn yr ornest.
Ond dechreuodd tîm Gemma Grainger yn gadarn, serch hynny, gyda’r cyfle cynta’n dod yn yr wythfed munud, wrth i Rachel Rowe groesi i’r cwrt, ac ergyd Elise Hughes yn mynd yn syth at y gôl-geidwad Merel Frohms.
Tarodd Sophie Ingle foli funudau’n ddiweddarach, ond cafodd ei harbed cyn i Gemma Evans droseddu yn erbyn Frohms.
Daeth cyfle fawr ar ôl 17 munud, wrth i allu Cymru i ddal eu gafael ar y meddiant dalu ar ei ganfed, gydag Ingle yn bwydo Rowe i lawr yr ochr chwith cyn i honno ergydio o ymyl y cwrt a tharo’r postyn a chefn Frohms cyn gadael y cae.
Yr Almaen oedd gryfaf wrth i’r hanner cyntaf fynd rhagddo, ac fe gawson nhw sawl ymosodiad peryglus, gan gynnwys ergyd Sjoeke Nusken at Olivia Clark yn y gôl ar ôl 27 munud.
Wrth i’r Almaen chwarae’n fwy ymosodol, dioddefodd Rowe dacl drom ar ôl 35 munud, ond roedd hi’n ddigon iach i barhau.
Cafodd yr Almaen eu cyfle gorau yn yr hanner ar ôl 41 munud, wrth i Sarai Lander daro ergyd o bell ond hwyliodd y bêl dros y trawst.
Hanner amser: Cymru 0 Yr Almaen 0
Doedd hi ddim yn hir cyn i’r ymwelwyr ganfod cyfle cynta’r ail hanner, wrth i gic rydd Alexandra Popp fynd yn syth at Clark yn y gôl yn y munudau agoriadol.
Tarodd Gemma Evans ergyd oddi ar gic gornel rai munudau’n ddiweddarach, ond roedd yn ymdrech ddof gan Gymru.
Wrth barhau i gwrso’r gôl gyntaf, daeth Ella Powell a Ceri Holland i’r cae yn eilyddion i Gymru ar ôl 65 munud, gyda Lily Woodham a Rachel Rowe yn gadael, a daeth Kayleigh Green i’r cae yn lle Elise Hughes gyda deuddeg munud yn weddill o’r 90.
Ond ychydig iawn oedd wedi newid o ran Cymru wrth iddyn nhw fethu â thorri drwy amddiffyn yr Almaen, er bod y tîm cartref wedi cael dau draean o’r meddiant hyd at y pwynt hwnnw.
Roedd yr ymwelwyr yn parhau i bwyso ben draw’r cae hefyd, gyda’r eilydd Lena Petermann drwodd ar y gôl ar ôl 84 munud, ond arhosodd Josie Green yn gadarn i glirio’r bêl, cyn i’r Almaen ennill cic gornel yn yr amser ganiateir am anafiadau.
Bydd Cymru’n siomedig o fod wedi gorffen eu hymgyrch heb fuddugoliaeth, ond dyma’n sicr oedd eu perfformiad gorau yn erbyn un o dimau cryfa’r gystadleuaeth.
‘Canlyniad da i orffen’
“Mae’n ganlyniad da i orffen,” meddai Josie Green.
“Dw i eisiau chwarae yn erbyn y goreuon.
“Rydych chi eisiau profi’ch hunain yn erbyn y gwledydd hyn.
“Mae heno wedi dangos ein bod ni’n haeddu bod o amgylch y cenhedloedd hyn.
“Os ydych chi’n myfyrio ar y gêm, cawson ni gyfleoedd da, ac mae’n rhaid i chi adeiladu ar y pethau positif gewch chi.
“Dw i’n falch o’r chwaraewyr am ddangos yr hyn y gallwn ni ei wneud.”
‘Cystadleuol yn erbyn un o dimau gorau’r byd’
“Roedd gyda ni gynllun ar gyfer pob gêm, ac fe lwyddon ni i’w weithredu fe heno,” meddai Gemma Grainger.
“Dw i’n falch dros y chwaraewyr, oherwydd roeddwn i’n gwybod y bydden ni’n gwella o un gêm i’r llall.
“Allwch chi ddim rhuthro addysg, mae’n rhaid iddo fe fod gam wrth gam.
“Mewn cyfnod byr, mae gan y tîm hwn y gallu i addasu a symud ymlaen.
“Rydyn ni’n credu, rydyn ni wedi credu erioed.
“Mae’r ffaith fod rheolwr yr Almaen wedi dweud y gallen ni fod wedi ennill yn glod mawr i’r merched.
“Rydyn ni wedi bod yn gystadleuol yn erbyn un o dimau gorau’r byd.”