Gallai arwain tîm pêl-droed i brif dwrnament rhyngwladol arall fod yn dyngedfennol i obeithion y rheolwr Rob Page o gadw ei swydd yn y pen draw, yn ôl y sylwebydd a chyflwynydd Dylan Ebenezer.

Ond wrth siarad â golwg360, mae’n dadlau nad oes pwynt ac na fyddai amser o blaid Cymru pe baen nhw’n dewis mynd i gyfeiriad arall cyn gemau ail gyfle gemau rhagbrofol Ewro 2024.

Bydd Cymru’n herio’r Ffindir yn rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle yng Nghaerdydd ar Fawrth 21, ac wedyn Gwlad Pwyl neu Estonia yn y rownd derfynol wrth iddyn nhw geisio sicrhau eu lle ar yr awyren i’r Almaen haf nesaf.

Pe baen nhw’n cymhwyso ar gyfer y prif dwrnament, bydden nhw yng Ngrŵp D gyda Ffrainc, yr Iseldiroedd ac Awstria.

Dyfodol Rob Page

Yn sgil canlyniadau cymysg, ac ar ôl ymgyrch siomedig yng Nghwpan y Byd yn Qatar flwyddyn yn ôl, fe fu’r rheolwr dan y lach ac fe arweiniodd at neges gyhoeddus gan Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, fod dyfodol Rob Page dan y chwyddwydr.

Yn ôl Dylan Ebenezer, sy’n dweud bod codi cwestiynau am ddyfodol y rheolwr yn “deg”, mae’n dweud ei bod hi’n “sefyllfa ryfedd iawn” serch hynny, a bod yn rhaid “anghofio” am y dyfodol tan ar ôl y gemau ail gyfle.

“Does dim amser, does dim pwynt newid nawr,” meddai wrth golwg360.

“Yn yr haf, roeddwn i’n meddwl bod y gemau yn erbyn Armenia a Thwrci mor siomedig, ac roedd lot o esgusodion yn hedfan o gwmpas.

“Ond fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd, mae gyda ni ddwy gêm gartref gyda chystadleuaeth arall.

“Tasai e’n ein cael ni i gystadleuaeth arall – efallai y gallech chi ddadlau nad fe sydd wedi’n cael ni i bob un o’r rhain (gwnaeth Ryan Giggs lot o waith o ran cyrraedd yr Ewros) – ond fi’n credu y bydd y drafodaeth yn parhau ar ôl yr Ewros.

“Os nad ydyn nhw’n cyrraedd, efallai bydd yna bwynt lle byddech chi’n dweud, ‘Diolch yn fawr, digon yw digon, mae angen symud ymlaen’.

“Ond os ydych chi’n cyrraedd yr Ewros, beth ydych chi’n mynd i’w ddweud? Mae’r boi wedi mynd â ni i brif gystadleuaeth arall!

“Bydd criw fydd dal ddim yn hapus gyda fe, a fi’n deall pam.

“Mae lot o bethau dydych chi dal ddim yn siwr amdanyn nhw – penderfyniadau, game management fel maen nhw’n dweud.

“Ond rydych chi jyst yn gweld yr eilyddio ar amser rhyfedd weithiau. Ond, beth mae chwaraewyr pêl-droed yn dweud? ‘Show me the medals!‘.

“Gallai e ddweud, ‘Dangoswch y prif gystadlaethau i fi!’, chwarae teg iddo fe.”

Grŵp D: ‘Group of Death?’

Mae Ffrainc yn ail ar restr ddetholion y byd FIFA, yr Iseldiroedd yn chweched, Awstria’n rhif 24 a Chymru’n rhif 29.

Yn ôl Dylan Ebenezer, mae’n “grŵp anodd dros ben” ond fod poeni am y grŵp cyn y gemau ail gyfle’n “beth rhyfedd” – er bod cymhwyso drwy orffen yn drydydd yn eu grŵp yn bosibilrwydd i Gymru.

“Roedd e bach fel y Group of Death pan oedd y peli’n dod allan, ac roeddech chi’n meddwl, ‘Co ni off!’. Ond fel’na mae,” meddai.

“Ond os ydyn ni’n cyrraedd yno, sa i’n credu fydd neb yn poeni!

“Beth sy’n ddiddorol o ran y profiad o fod yn yr Ewros yw gymaint o dimau sy’n gorffen yn drydydd sy’n mynd trwyddo, ond mae angen un canlyniad mawr yna.

“Os ydych chi’n edrych ar Awstria fel yr un i’w targedu, sgwn i… efallai bo fi’n byw mewn byd ffantasi… Ond os ydych chi’n dal yr Iseldiroedd ar brynhawn bach lle dydyn nhw ddim ar eu gorau yn y gêm gyntaf yna, efallai y byddan nhw’n teimlo’n hael ac yn hapus i gael gêm gyfartal yn erbyn Cymru…!

“Yn amlwg, gallai hi dal fod yn 6-0 – ond dydych chi byth yn gwybod! Mae cystadlaethau mor ryfedd.

“Roedden ni wedi chwarae yn eu herbyn nhw yng Nghynghrair y Cenhedloedd… Olreit, profiad hollol wahanol, ond o leia’ mae gan y chwaraewyr brofiad o chwarae yn eu herbyn nhw.

“Y realiti yw, pan sgorion ni yn eu herbyn nhw yng Nghynghrair y Cenhedloedd, roedd hi fel tasen nhw’n codi’u gêm, yn mynd lan y cae ac yn sgorio yn ein herbyn ni. Maen nhw’n gallu gwneud hynny.

“Byddai cyrraedd yno mor ffantastig.

“Dyw hi ddim fel Ffrainc lle oeddech chi’n teimlo bod rhaid ennill y gêm gyntaf.

“Os gallen ni grafu gêm gyfartal yn y gêm gyntaf, pwy a ŵyr? Dydych chi byth yn gwybod.”

Y gemau ail gyfle

Ond cyn hynny, bydd yn rhaid i Gymru feddwl am herio’r Ffindir, sy’n rhif 59 yn y byd, ac wedyn Gwlad Pwyl (rhif 31) neu Estonia (rhif 122).

Wrth drafod y gêm gyn-derfynol, dywed Dylan Ebenezer ei fod e’n “eithaf hyderus”.

“Fi wedi mynd o un pegwn i’r llall yn y gemau diweddar!” meddai.

“Dydyn ni ddim wedi bod yn wych, ond pan mae angen canlyniad gartref, fel arfer maen nhw’n gallu gwneud digon.

“Y gêm gartref yna yn erbyn Armenia (colled o 4-2) sy’n sefyll allan, ond mae lot wedi newid ers honna.

“Fi’n credu bod y tîm rheoli wedi callio a sylweddoli dydyn ni ddim yn gallu chwarae’n ymosodol, ffwrdd-â-hi; rydyn ni angen chwarae yn y patrwm sefydlog yma sy’n gweithio ac rydyn ni’n edrych yn beryglus.

“Fi ddim yn gweld pam lai.

“Efallai bo fi’n hollol anghywir, ond fi yn gweld, y ffaith fod y ddwy gêm gartre’ – ro’n i’n methu credu’r peth pan oedd trefn y gemau’n digwydd – y ffaith fod yr ail gêm gartref hefyd, fi’n credu bod honna’n fantais enfawr i Gymru, yn fwy na’r arfer weithiau achos dydyn ni ddim yn dda oddi cartref.”

Ar bapur, o leiaf, byddai Cymru’n disgwyl wynebu Gwlad Pwyl yn y rownd derfynol y gemau ail gyfle, a bydd chwarae gartref yn fantais fawr, yn ôl y sylwebydd.

“Maen nhw yno am reswm,” meddai Dylan Ebenezer wedyn.

“Dydyn nhw ddim wedi bod yn wych yn ddiweddar, ond mae dal [Robert] Lewandowski gyda nhw yn chwaraewr da.

“Rydyn ni wedi’u chwarae nhw’n ddiweddar hefyd, eto yng Nghynghrair y Cenhedloedd, roedden ni’n disgwyl gwneud yn well nag y gwnaethon ni yn erbyn Gwlad Pwyl. Roedd y gemau hynny’n rhyfedd.

“Fi’n casau’r ystrydebau a’r holl ffys am y Wal Goch – mae gan bob gwlad eu cefnogwyr ffyddlon, swnllyd – ond mae rhywbeth am Gymru yn y stadiwm. Maen nhw’n amlwg yn mwynhau bod yno.

“Y gêm yn erbyn Twrci, roeddwn i’n meddwl bo nhw wedi dechrau’n dda iawn yn erbyn gwlad dda iawn, ac oni bai am ddyfarnwr oedd ddim yn dda iawn, bydden nhw wedi ennill.

“Wnaeth e ddim gwneud gwahaniaeth yn y diwedd achos bod Croatia wedi ennill, ond roedd y penderfyniadau aeth yn erbyn Cymru’n anhygoel.

“Bron â bod unrhyw un adre’, byddech chi’n meddwl fod siawns gyda ni.

“Fi ddim yn dweud bo ni’n mynd i’w gwneud hi, ond eto mae bod gartre’n gwneud gymaint o wahaniaeth.”

Profiad

Bron cyn bwysiced â chwarae gartref mae profiad rhai o chwaraewyr Cymru o chwarae mewn prif dwrnament, wrth iddyn nhw anelu i gyrraedd yr Ewros am y trydydd tro yn olynol.

“Mae’r profiad yn bwysig, maen nhw wedi bod yno,” meddai Dylan Ebenezer.

“Mae cymaint o’r chwaraewyr nawr yn trio cyrraedd prif gystadleuaeth eto – rhai yn trio cyrraedd yr Ewros am y trydydd tro, sy’n wallgo’ pan ydych chi’n meddwl amdano fe!

“Mae rhai o’r criw wedi dechrau diflannu, ond mae rhai ohonyn nhw’n dal yno – Ben Davies, er enghraifft.

“Mae gyda nhw brofiad aruthrol, ac wedi bod drwy’r gemau ail gyfle. Mae gyda nhw muscle memory, yn cofio.

“Dydyn nhw ddim mor ifanc â hynny, ond maen nhw dal yn ddiniwed ar adegau ar y llwyfan rhyngwladol.

“Roedd gemau Awstria ac Wcráin mor emosiynol.

“Jyst gobeithio fydd y tîm rheoli ddim yn penderfynu taflu pedwar ymosodwr ar y cae a mynd amdani!”