Mae cyn-chwaraewr rygbi sydd bellach yn bara-athletwr wedi bod yn rhannu manylion ei daith ysbrydoledig i frig ei gamp newydd ar ôl llwyddo i drechu trawma.

Roedd Harrison Walsh yn chwarae rygbi yng ngharfan y Gweilch, ond mae e bellach yn ennill medalau ar lefel Ewropeaidd a’r Gymanwlad wrth daflu’r ddisgen mewn para-athletau ar ôl i anaf roi terfyn ar ei yrfa yng ngêm y bêl hirgron.

Mae e bellach yn edrych ymlaen at y Gemau Paralympaidd y flwyddyn nesaf.

Dyfodol disglair o’i flaen

Yn ddeunaw oed, cafodd y prop Harrison Walsh anaf yn ystod gêm rygbi, ac fe newidiodd ei fywyd am byth o’r diwrnod hwnnw.

Roedd e’n benderfynol o barhau â’i angerdd am y byd chwaraeon, gan wynebu heriau newydd a meithrin gwytnwch, a phenderfynu nad oedd yn rhaid i’w amgylchiadau newydd roi terfyn ar ei freuddwyd o gyrraedd y brig.

Erbyn hyn mae’n annog eraill sydd wedi wynebu rhwystrau yn eu gyrfaoedd i ofyn am gymorth ac arweiniad arbenigol am ddim drwy ReAct+, rhaglen Llywodraeth Cymru sydd â’r nod o helpu pobol sydd wedi dod yn ddi-waith yn ddiweddar, neu sy’n wynebu colli eu swydd, drwy gynnig pecyn cymorth wedi’i deilwra.

“Roedd rygbi’n agos at fy nghalon erioed, ers pan oeddwn i’n ifanc iawn,” meddai Harrison Walsh.

“Chwaraeais i’r gamp yn yr ysgol am y tro cyntaf, ac wrth i mi barhau i chwarae gyda chlybiau lleol, tyfodd fy angerdd tuag at y gêm yn aruthrol.

“Daeth yn amlwg fod rygbi’n rywbeth roeddwn i wir yn rhagori ynddo, ac o dipyn i beth daeth yn rhywbeth y gallwn weld fy hun yn ei wneud fel gyrfa.

“Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael cynnig contractau llawn amser a dechreuais i chwarae gyda thîm dan 18 y Gweilch.

“Heb os, dw i’n teimlo’n angerddol iawn am rygbi, felly roedd meddwl am wneud hyn fel bywoliaeth gyda’r potensial i fynd ymlaen i gynrychioli fy ngwlad yn gwireddu breuddwyd.”

Bywyd wedi newid yn llwyr

Ond ym mis Ionawr 2015, wrth chwarae i dîm rygbi Abertawe, cafodd ei freuddwyd ei chwalu ar ôl iddo fe ddioddef anaf i’w ben-glin.

Roedd y nerfau yn ei goes wedi’u torri, ac fe ddaeth ei yrfa rygbi i ben yn y fan a’r lle.

“Dywedwyd wrthyf y gallwn ei chael hi’n anodd cerdded ac efallai na fyddwn i byth yn gallu rhedeg eto,” meddai.

“Roedd yn drychinebus clywed hyn wrth i mi ddechrau chwarae’n broffesiynol.

“Roeddwn i’n teimlo’n wirioneddol ar goll, a doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud nesaf.

“Roedd hi’n anodd i mi fynd drwy’r newid yna ar lefel feddyliol, ond hefyd yn gorfforol wrth i mi ddechrau cerdded yn wahanol hefyd.

“Roedd hi’n anodd osgoi’r hyn ddigwyddodd i mi.

“Doeddwn i erioed wedi ystyried y term ‘anabl’, mewn gwirionedd, ond yn sydyn sylweddolais i fod fy mywyd wedi newid yn llwyr.”

Adsefydlu

Ar ôl treulio amser yn adsefydlu, dechreuodd Harrison Walsh edrych ar y cyfleoedd a’r opsiynau ar gyfer ei ddyfodol.

“Fe wnes i gymryd amser hir i ddarganfod beth roeddwn i eisiau ei wneud yn dilyn fy anaf, oherwydd nad oedd un peth amlwg yr oeddwn yn cael fy nenu ato, neu a oedd cystal â chwarae rygbi,” meddai.

“Roeddwn i wedi rhoi cynnig ar lawer o bethau gwahanol, o hyfforddi rygbi, mynd i’r brifysgol i ddechrau gyrfa mewn peirianneg, paentio tai, a gweithio mewn cegin.”

Gan ddilyn ei angerdd am chwaraeon, cysylltodd â Chwaraeon Anabledd Cymru, a dechrau rhoi cynnig ar wahanol gampau i ddarganfod ei gryfderau newydd.

“Dechreuais astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, gan ddysgu am gryfder, cyflyru ac adsefydlu.

“Roedd yn benderfyniad mor wych, oherwydd roeddwn i’n gallu hyfforddi tra’n fyfyriwr llawn amser.

“Roeddwn i wrth fy modd â’m cwrs, ac roedd gallu hyfforddi’n galed eto yn fy helpu i fagu fy hyder fel chwaraewr unwaith eto.”

Taflu disgen

Ers hynny, mae Harrison Walsh wedi mynd yn ei flaen i fod yn daflwr disgen, gan ennill medal efydd i Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2022.

Mae e bellach yn edrych ymlaen at gystadlu yn y Gemau Paralympaidd y flwyddyn nesaf.

“Paid â bod ofn y cyfleoedd sy’n codi,” meddai wrth geisio rhoi cyngor i bobol yn yr un sefyllfa â fe.

“Fe wnes i dreulio llawer o amser yn chwilio am swyddi, ac yn pwyso a mesur beth allwn i ei wneud, oherwydd doedd gen i ddim syniad.

“Roedd fy nyfodol i gyd wedi newid mewn ychydig eiliadau, ac roeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn i ddechrau, ond doedd gen i ddim syniad y byddwn i’n mynd ymlaen i fod yn athletwr yn y Gemau Paralympaidd.

“Dw i ddim yn credu y dylai unrhyw un geisio uniaethu eu sefyllfa nhw â sefyllfa unrhyw un arall, oherwydd rydyn ni i gyd yn wahanol.

“Mae pawb yn profi heriau unigryw gydol eu bywydau, ac mae’n ymwneud â sut rwyt ti’n ymateb.

“Gall mynd trwy gyfnodau anodd dy helpu i ddod yn berson mwy gwydn beth bynnag dy yrfa, ac i geiswyr gwaith sydd am ddechrau gyrfa gall fod yn arbennig o heriol.

“Efallai y bydd yn teimlo fel y peth gwaethaf yn y byd ar hyn o bryd, ond bydd yn dy wneud di’n berson cryfach.

“Mae pob un ohonom yn wynebu rhwystrau gwahanol sy’n ein hatal rhag cyflawni ein nodau personol a gyrfaol, a dyna pam rwy’n cefnogi’r rhaglen ReAct+.

“Gall gwybod bod cefnogaeth wedi’i theilwra ar gael i helpu pobol i oresgyn rhwystrau i waith wneud gwahaniaeth enfawr, boed hynny’n arian i ennill sgiliau newydd neu fentora un-i-un i wella hyder, neu helpu i ddod o hyd i swyddi a gwneud cais amdanyn nhw.”

Mae wedi cynghori eraill yng Nghymru sy’n ceisio dychwelyd i’r gwaith neu ddod o hyd i yrfa maen nhw’n teimlo’n angerddol amdani i fanteisio ar y cymorth cyflogaeth am ddim sydd ar gael drwy raglen ReAct+.

“Dwyt ti byth yn gwybod beth sydd ar y gorwel,” meddai.

“Mae bod yn barod, a bod yn ymwybodol o’r bobol a’r gwasanaethau all dy helpu yn ystod y cyfnod hwnnw, yn allweddol.”

Mae rhaglen ReAct+ yn cynnig cymorth cyflogaeth wedi’i bersonoli am ddim allai gynnwys cyngor, arian ar gyfer hyfforddiant i’r rhai sydd allan o waith neu’n sy’n wynebu colli swydd.