Mae’r Daily Telegraph yn adrodd fod Clwb Pêl-droed Tottenham Hotspur wedi gwrthod rhoi caniatâd i Abertawe siarad â Chris Davies.
Is-reolwr Spurs yw un o’r ffefrynnau ar gyfer swydd rheolwr yr Elyrch, ar ôl i Michael Duff gael ei ddiswyddo.
Roedd Davies, oedd wedi cynrychioli grwpiau oedran Cymru ar y cae, yn aelod o dîm hyfforddi Brendan Rodgers pan oedd e wrth y llyw pan gododd yr Elyrch i Uwch Gynghrair Lloegr.
Mae e hefyd wedi gweithio gyda Rodgers yn Lerpwl, Celtic a Chaerlŷr.
Ymunodd e â Spurs yn yr haf pan gafodd Ange Postecoglou ei benodi’n rheolwr, ond yn ôl adroddiadau roedd Abertawe’n awyddus i siarad ag e am y swydd cyn i Michael Duff gael ei benodi.
Dim ond chwe mis oedd Duff wrth y llyw cyn iddo fe gael ei ddiswyddo, gyda’r clwb yn ddeunawfed yn y Bencampwriaeth.