Mae’r gyrrwr ralio Elfyn Evans wedi llofnodi cytundeb newydd gyda thîm Toyota Gazoo.

Ers ymuno â’r tîm, mae e wedi gorffen yn ail ym Mhencampwriaeth y Byd dair gwaith mewn pedair blynedd.

Eleni, mae’r Cymro Cymraeg wedi ennill yn rasys Croatia, y Ffindir a Japan.

“Hapus iawn i gadarnhau mai 2024 fydd fy mhumed tymor yn olynol yn @OfficialWRC gyda @TGR_WRC – gan edrych ymlaen at barhau â’n llwyddiant ynghyd â’r hybrid GR Yaris Rally1!” meddai Elfyn Evans ar X (Twitter gynt).