“Bore da” oedd neges Clwb Pêl-droed Southampton, wrth iddyn nhw gadarnhau bod y Cymro David Brooks wedi ymuno â nhw ar fenthyg o Bournemouth.

Mae’r chwaraewr canol cae 26 oed wedi ymuno â thîm Russell Martin, cyn-reolwr Abertawe, tan ddiwedd y tymor.

Mae e wedi ennill 27 o gapiau dros Gymru, ac wedi chwarae 114 o weithiau i Bournemouth gan sgorio ugain gôl ers symud o Sheffield United yn 2018.

Dywed y clwb fod enw’r Cymro ar frig eu rhestr o chwaraewyr sy’n gallu chwarae ar yr asgell roedden nhw am eu denu atyn nhw, ac maen nhw wedi ei ddisgrifio fe fel “chwaraewr dawnus a deinamig iawn”.

Mae’n bennod newydd yng ngyrfa David Brooks, sydd wedi brwydro’n ôl i chwarae unwaith eto ar ôl gwella o ganser.

“Dw i’n hapus iawn,” meddai.

“Gyda’r blynyddoedd diwethaf o ran fy sefyllfa, dw i’n edrych ymlaen at ddod yma a cheisio cael amser mewn gemau.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr, ac yn methu aros i gael dechrau arni.”

Bydd Cymru’n herio’r Ffindir yn rownd gyn-derfynol gemau rhagbrofol Ewro 2024 ym mis Mawrth.