Fe fydd cadeirydd Clwb Criced Morgannwg ymhlith aelodau gweithgor newydd i adfywio criced mewn ysgolion gwladol ledled Cymru a Lloegr, yn ôl y cylchgrawn The Cricketer.

Mae’r gweithgor wedi’i sefydlu fel rhan o ymateb i gomisiwn annibynnol oedd wedi argymell y cam er mwyn gwneud y gamp yn fwy cynhwysol i bawb ar draws y ddwy wlad, waeth beth fo’u cefndir.

Fe wnaeth y Comisiwn argymell hefyd y dylid sefydlu Cynllun Gweithredu ar gyfer Ysgolion Gwladol.

Ymhlith yr aelodau eraill ar y gweithgor mae’r cyn-chwaraewyr Jimmy Anderson, Chris Jordan a Lydia Greenway.

Yn ymuno â nhw fydd Mark Rhydderch-Roberts, cadeirydd Morgannwg, a Syr Michael Barber, cadeirydd Gwlad yr Haf, ynghyd â’r gwleidydd Llafur Ed Balls, cynrychiolwyr o fudiadau Chance to Shine a’r Youth Sports Trust, a buddsoddwyr yn y gamp.

Mae Ed Balls yn un sydd wedi bod yn hybu’r gamp eisoes yn rhinwedd ei rôl fel gwleidydd ac aelod seneddol, ac yntau wedi chwarae i dîm criced Tŷ’r Cyffredin ar hyd y blynyddoedd.

Pan oedd e’n Ysgrifennydd Ysgolion yn y Llywodraeth Lafur, fe fu’n hybu “manteision iechyd amlwg” y gamp, gan ddweud y gallai gael effaith ledled y cwricwlwm.

Fe wnaeth e ymrwymo i glustnodi £21m ar gyfer colegau chwaraeon er mwyn gwella cyfleusterau.