Mae Mark Alleyne wedi gadael Clwb Criced Morgannwg ar ôl cael ei benodi’n Brif Hyfforddwr Swydd Gaerloyw.

Fe fu’n rhan o’r tîm hyfforddi y tymor diwethaf, ac yntau’n Brif Hyfforddwr y tîm mewn gemau ugain pelawd.

Roedd disgwyl pan gafodd ei benodi y byddai’n arwain y tîm mewn gemau 50 pelawd hefyd, ond aeth y ddyletswydd honno i’r is-hyfforddwr David Harrison.

Treuliodd Mark Alleyne ddau ddegawd yn chwarae i Swydd Gaerloyw rhwng 1986 a 2005, gan arwain y tîm am nifer o flynyddoedd.

Bu’n Brif Hyfforddwr Swydd Gaerloyw rhwng 2004 a 2007.

Mae Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, wedi dymuno’n dda iddo fe ar gyfer y dyfodol.

“Dw i wedi mwynhau fy amser gyda Morgannwg yn fawr iawn, a hoffwn ddiolch i’r clwb am y cyfle i ymuno â’r staff hyfforddi a chael mentro yn ôl i fod yn Brif Hyfforddwr y tymor diwethaf,” meddai Mark Alleyne.

“Dw i wedi cyffroi ynghylch dychwelyd i Swydd Gaerloyw, a’r cyfle ddaw yn sgil hynny.

“Hoffwn ddymuno pob lwc i bawb ym Morgannwg ar gyfer y tymor i ddod, a dw i’n edrych ymlaen at weld pawb yn ystod yr haf.”

Michael Neser yn ymuno â Hampshire

Billy Root a Michael Neser
Billy Root a Michael Neser yng Nghaerwrangon

Yn y cyfamser, mae’r bowliwr cyflym tramor Michael Neser wedi ymuno â Hampshire.

Bydd yr Awstraliad 33 oed ar gael ar gyfer wyth gêm gynta’r Vitality Blast, y gystadleuaeth ugain pelawd, ar ôl gadael Morgannwg.

Bydd e hefyd ar gael ar gyfer gemau’r Bencampwriaeth yn ystod y cyfnod hwnnw.

Yn chwaraewr amryddawn, mae e wedi cipio 130 o wicedi mewn 116 o gemau ugain pelawd, ar gyfartaledd o 23.74 yr un.

Roedd e’n aelod o dîm Brisbane Heat enillodd y Big Bash League yn ddiweddar, gan gipio deuddeg wiced.

Treuliodd e dair blynedd gyda Morgannwg, gan gipio 13 o wicedi mewn deg gêm ugain pelawd.

Mae e wedi cynrychioli Awstralia mewn gemau prawf a gemau 50 pelawd.

Mae’r newyddion yn golygu bod Morgannwg wedi colli dau brif hyfforddwr (Mark Alleyne a Matthew Maynard), capten (David Lloyd) a chwaraewr tramor ers diwedd y tymor diwethaf, ac mae’r Prif Weithredwr Hugh Morris wedi camu o’r neilltu am resymau personol.