Yr hydref yma, bydd criw cymunedol yn ardal Dolgellau yn derbyn adroddiad a allai benderfynu ar ddyfodol un o ganolfannau hamddena enwoca’ Cymru.
Mae Caru Coed y Brenin o ardal Ganllwyd ger Dolgellau yn gobeithio achub y ganolfan feicio mynydd leol rhag cau, gan ei throi’n fusnes llwyddiannus er lles y gymuned.
Maen nhw’n cael eu cefnogi gan gronfa Grymuso Gwynedd a Cymunedoli Cyf, y rhwydwaith o fentrau cymunedol sy’n cynnal pob math o fusnesau lleol ar hyd a lled y wlad.
“Mae ariannu astudiaeth fanwl o’r posibiliadau i redeg y ganolfan yn effeithiol drwy fodel cymdeithasol yn rhywbeth y mae Grymuso Gwynedd yn falch iawn o’i gefnogi,” medd Betsan Siencyn, Rheolwr y rhaglen. “Mae’n bwysig bod y grŵp lleol yn cael y wybodaeth berthnasol i’w helpu i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer datblygu capasiti’r busnes, sy’n cynnwys darganfod o flaen llaw unrhyw rwystrau neu beryglon allai ddod i’r wyneb pe bai’r gymuned yn berchen ar yr eiddo.”
Mae’r astudiaeth yn rhan o waith ehangach i sicrhau dyfodol y ganolfan, ynghyd â chasglu barn y gymuned leol a gosod gweledigaeth y fenter.
“Y weledigaeth ydi fod y rhwydwaith yn helpu i sicrhau bod asedau yn aros yn nwylo cymunedau,” meddai Haydn Jones, Prif Swyddog Cymunedoli. “Rydan ni eisoes yn gwneud hynny trwy bob math o fentrau – cludiant cymunedol, twristiaeth gymunedol ac ynni cymunedol, er enghraifft.
“Y gobaith ydi gweld datblygiad tebyg yng Nghoed y Brenin, sy’n ased werthfawr i Gymru gyfan ac yn adnodd byd-eang.”
Wrth i’r perchnogion presennol, Cyfoeth Naturiol Cymru, benderfynu rhoi’r gorau i redeg y ganolfan feicio a’r bwyty ddiwedd Mawrth, mae criw Caru Coed y Brenin yn poeni y bydd y busnes yn mynd i ddwylo cwmni mawr o’r tu allan.
“Ein hofn ni yw y bydd cwmni preifat yn dod i mewn a mynd â’r elw i gyd i gyfranddalwyr,” meddai Rhys Llywelyn, Cadeirydd y Cyfeillion. “R’yn ni’n ffyddiog y bydd yr adroddiad dichonolrwydd yn profi bod modd i ni redeg y Ganolfan.”
Unigolion oedd wedi sefydlu’r ganolfan yn y lle cynta’ a’i datblygu’n organig gyda chefnogaeth beicwyr a phobl leol, meddai, cyn i Cyfoeth Naturiol Cymru gymryd yr awennau. Mae’n sicr y bydd y criw lleol yn gallu gwneud llawer gwell gwaith na’r cwango o gynnal busnes llwyddiannus.
Gyda phrofiad o redeg busnesau ymhlith aelodau Caru Coed y Brenin a rhai ohonyn nhw wedi bod yn allweddol yn nhwf y Ganolfan ei hun, maen nhw’n sicr y gallan nhw ddatblygu’r adnoddau ymwelwyr, creu llwybrau beicio newydd a chadw’r safle yn ganolfan o safon rhyngwladol.
Mae’r criw eisoes wedi dechrau ar y daith o godi arian ar-lein i berchnogi’r ganolfan.
Mae Cymunedoli Cyf hefyd yn pryderu am y peryg o weld busnes preifat o’r tu allan yn meddiannu’r Ganolfan ac yn poeni bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ffafrio ateb o’r fath.
“Mae Caru Coed y Brenin yn gweld y gallai’r Ganolfan fod yn gyfraniad positif tuag at yr economi ac ar gyfer y cenedlaethau nesa’,” meddai Haydn Jones. “Dyna ydi’r cwestiwn – sut fath o ddyfodol ydan ni’n ei adael i’r cenedlaethau i ddod.
“Yn rhy aml rydan ni’n gweld arian yn mynd allan o’n cymunedau ni yn hytrach na helpu’r economi lleol i gryfhau. Mae mentrau fel Caru Coed y Brenin hefyd yn cryfhau balchder a hyder cymunedol ac yn annog mentergarwch.”
Roedd cyfarfod cyhoeddus wedi’i gynnal yn ardal Ganllwyd ym mis Chwefror gan ddangos bod yna gefnogaeth gref i’r cynllun lleol; erbyn hyn mae Caru Coed y Brenin wedi ei sefydlu yn ffurfiol yn fenter gymunedol.
Yr adroddiad dichonolrwydd gan gwmni annibynnol o ymgynghorwyr fydd y cam nesa’ ar lwybr y ganolfan feicio. Bydd y fenter hefyd yn cynnal protest ar y safle ar 5 Hydref yn gwrthwynebu’r cau.
Mae menter Caru Coed y Brenin wedi’i ariannu trwy un o raglenni Menter Môn, sef Grymuso Gwynedd, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).