Fe gyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru yr wythnos hon eu bod yn trafod colli 265 o swyddi.
Mae toriadau’r corff amgylcheddol yn cynnwys staff tair canolfan ymwelwyr, gyda goblygiadau i ddyfodol y canolfannau hynny.
Dyma edrych ar rai o’r heriau sy’n wynebu’r corff, a’r ymgyrch i achub Canolfan Coed y Brenin a’i chadw mewn dwylo lleol.
Beth sydd wedi arwain at y toriadau?
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ynghanol proses i geisio arbed £13m o’u cyllideb.
Ym mis Mai eleni, dywedodd CNC mewn datganiad fod cyllid cyhoeddus “yn eithriadol o dynn ar draws y Deyrnas Unedig gyfan.” O ganlyniad, dywedodd CNC eu bod yn gorfod adolygu strwythur staffio’r corff.
Faint o swyddi sy’n debygol o gael eu colli?
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau eu bod yn trafod colli 265 o swyddi – mwy nag un ym mhob deg.
Mae’r corff wedi dechrau ymgynghoriad am ddyfodol y swyddi. Bydd yr ymgynghoriad yn para am 45 niwrnod.
Mae’r corff yn dweud bod rhai swyddi eisoes yn wag. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi pwysleisio y byddan nhw’n ceisio symud staff i swyddi newydd sy’n dod ar gael trwy brosiectau penodol, ond efallai na fyddai’r sgiliau yn cyfateb bob tro.
Sut mae’r toriadau am effeithio tair canolfan ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru?
Mae ymgynghoriad am ddyfodol y swyddi wedi dechrau, ac mae hynny’n cynnwys staff tair canolfan ymwelwyr y corff amgylcheddol – yng Nghoed y Brenin ger Dolgellau, Ynyslas ger y Borth, a Nant yr Arian ger Aberystwyth.
Y tebygrwydd ydy y bydd y tair canolfan yn cau ym mis Mawrth.
Roedd y canolfannau ynghau i ymwelwyr brynhawn dydd Mercher (Gorffennaf 31) oherwydd cyfarfodydd staff.
Beth yw’r ymgyrch i geisio achub Canolfan Coed y Brenin?
Mae grŵp lleol yn ymgyrchu i achub Canolfan Coed y Brenin a’i chadw mewn dwylo lleol.
Mae’r grŵp lleol yn y broses o greu cynllun i achub y ganolfan feicio mynydd yno a’i rhedeg er budd y gymuned leol.
Mae Caru Coed y Brenin wedi’i sefydlu’n Gymdeithas Budd Cymunedol gyda chefnogaeth cyrff fel Cymunedoli a Grymuso Gwynedd. Maen nhw eisiau’r cyfle i redeg y trac beicio mynydd byd-enwog, y ganolfan wybodaeth, y maes parcio, yr adnoddau plant a’r caffi. Dywed y grŵp fod ganddyn nhw’r gallu i gynnal y ganolfan yn llwyddiannus, efo unrhyw elw’n mynd yn ôl i ddatblygu’r ganolfan.
Maen nhw eisoes wedi comisiynu adroddiad dichonoldeb i greu achos busnes ar eu rhan.
Beth yw pryderon Caru Coed y Brenin?
Mae ymgyrch Caru Coed y Brenin yn poeni y bydd y ganolfan yn mynd i ddwylo cwmni preifat o’r tu allan, gan olygu bod yr holl elw yn gadael ardal y Ganllwyd a Dolgellau, ac ysbryd cymunedol y ganolfan yn cael ei golli.
Maen nhw wedi cyhuddo Cyfoeth Naturiol Cymru o fethu â chydweithredu â nhw, ac o osod rhwystrau yn eu ffordd wrth iddyn nhw geisio cael gwybodaeth am ffigurau angenrheidiol ynglŷn â sefyllfa ariannol y ganolfan.
“Mae cydweithrediad Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan hanfodol o ran sicrhau bod yr adroddiad yn un da, ond dyw hynny ddim yn digwydd,” meddai Rhys Llywelyn, cadeirydd Caru Coed y Brenin.
“Rydyn ni wedi bod yn gofyn am gydweithrediad ers mis Chwefror ond bob tro rydyn ni’n gofyn am weld manylion y cyfrifon, mae yna esgusodion ac esgusodion ac esgusodion wedi cael eu rhoi yn ein ffordd ni.
“Beth ydyn ni’n teimlo yw bod busnesau preifat yn cael blaenoriaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru.”
“Ryden ni eisiau cael ein gweld yn cael blaenoriaeth,” meddai’r Cynghorydd Sir lleol Delyth Lloyd-Griffiths, sy’n cyhuddo Cyfoeth Naturiol Cymru o dorri addewidion i roi cyfle i’r mudiad lleol gymryd yr awenau.
Ychwanegodd eu bod yn poeni bod CNC yn “cynllunio i weithio efo cwmni o Loegr, efo’r elw i gyd yn mynd allan.”
Beth mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei ddweud?
Dadl Cyfoeth Naturiol Cymru yw fod rhaid dilyn rheolau caffael masnachol, gan ddadlau y byddai rhoi’r ganolfan yn nwylo cwmni preifat o’r tu allan yn mynd yn groes i Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n rhoi cyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus i ystyried oblygiadau eang, tymor hir eu penderfyniadau.
Roedd disgwyl i gynrychiolwyr yr ymgyrch, ynghyd â Mabon ap Gwynfor, Aelod lleol o’r Senedd, a’r Cynghorydd lleol Delyth Lloyd Griffiths gyfarfod â Chyfoeth Naturiol Cymru ddydd Gwener (Awst 2).