Mae sawl hanes am y Parchedigion John Evans ac Ifan John. Doedden nhw ddim yn rhyw gyfeillion mynwesol iawn – rhyw gyfeillion dros glawdd, fel petai. Roedd y ddau yn weinidogion yn y dref, ac yn gymdogion i’w gilydd. Roedd y ddau, yn awr ac yn y man, yn ceisio bod yn ufudd i orchymyn Iesu: Câr dy gymydog fel ti dy hun (Mathew 19:19b), ond ‘yn y man’ oedd hi bob amser, a byth ‘yn awr’. Efallai i chi glywed y stori am yr organ? Na? Wel, eglwys y Parchedig Ifan John oedd y gyntaf yn y dref i gael organ. Roedd y Parchedig John Evans yn ddirmygus. “Y cwbl sydd arnoch chi eisiau yn awr,” meddai wrth Ifan John, “ydi mwnci.” “Y cwbl sy arnoch chi ei eisiau’, atebodd y Parchedig Ifan John, “ydi organ.”
Pregethwr dwfn, diwinyddol – yn sych fel llong mewn potel – oedd y Parchedig John Evans. I bob oedfa, gofalodd ddod â phregeth tri phen – arwydd o uniongrededd diogel, wrth gwrs, a rhwng pob pen, pesychiad tra phwysig. Pregethai John Evans gan ddefnyddio’r un geiriau i ddechrau pob pregeth: “Ar ddechrau’r bennod o’r blaen…” Wedi rhag ymadroddi yn wresog am hanner awr neu fwy, pesychiad, yna dywedai, “A dyma ni’n dod i adnod ein testun…”
Bu farw’r Parchedig John Evans yn ddisymwth.
Pregethwr o fath oedd y Parchedig Ifan John. I bob oedfa, gofalodd ddod â rhywbeth i’w ddweud, a hynny yn sgil ei ddiwydrwydd fel ymwelydd. Â het drilbi ddu ar ei ben, a ffon yn ei law, fel offeiriad plwyf Chaucer, brysiai yn ddiarbed, o dŷ i dŷ … o dŷ i dŷ … o dŷ i dŷ.
Bu farw’r Parchedig Ifan John yn ddisymwth.
Cadw tŷ tafarn yn y dre oedd Alys Llawrtyddyn. Roedd crefydd yn argraffedig ar agendwm Alys, ond yn sicr ddigon, nid crefydd mo’r item gyntaf.
Bu farw Alys Llawrtyddyn yn ddisymwth.
Daethon nhw, y tri, a sefyll wrth gatiau mawr y Nefoedd.
Camodd y Parchedig John Evans at y gatiau gan ofyn am fynediad. “Pregethais yr Efengyl,” meddai, “gan ddangos annibyniaeth barn ac aeddfedrwydd argyhoeddiad.”
“Arhoswch fan hyn am ychydig,” meddai Angel yr Arglwydd. “Cyn i mi eich gwahodd i mewn atom, mae’n rhaid wrth ymchwiliad i’ch cymhellion wrth bregethu: lles eraill neu ennill sylw a chanmol, safle ac anrhydedd i chi eich hunan.”
Nesaf, camodd y Parchedig Ifan John ymlaen, gan lawn a llwyr ddisgwyl croeso twymgalon. “A chithau hefyd, Mr John, arhoswch am ychydig os gwelwch yn dda. Buoch yn brysur yn ymweld â phobol Dduw, ond mae’n rhaid wrth ymchwiliad os bu i’ch pobol ymdeimlo â’ch diddordeb ynddyn nhw, a’ch gofal drostyn nhw.”
Camodd Alys heibio i’r naill Barchedig a’r llall, heb ddisgwyl na gwên na chroeso. “Cedwais ddrws agored i’r anghenus, a bwydo’r tlodion heb ofyn tâl,” meddai’n betrus.
Agorodd y gatiau mawr a chafodd Alys groeso. Nid oedd angen ymchwiliad.