Mae DJ o Bontypridd wedi ailafael mewn cerddoriaeth ar ôl cymryd seibiant i ganolbwyntio ar ei iechyd meddwl.

Bu Alun Reynolds yn aelod o nifer o fandiau trwm ar hyd ei ieuenctid ond penderfynodd rhoi siawns ar gerddoriaeth electroneg am y tro cyntaf dros ddeng mlynedd yn ôl.

Yn ddiweddar, mae o wedi bod yn gwneud setiau DJ mewn clybiau yn Ibiza a bydd yn dychwelyd yr haf nesaf.