Mae clwb ieuenctid Cristnogol (CIC) yn un o drefi ôl-ddiwydiannol y gogledd yn denu tua 60 o blant a phobol ifanc bob wythnos i fwynhau nosweithiau o hwyl a gweithgareddau.

Yn y mis diwethaf, mae Craig Blaenau wedi dechrau Ysgol Sul newydd ym Mlaenau Ffestiniog hefyd a’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol a’r arweinwyr wedi’u “calonogi”.