Mae stori cwmni Limb-art yn dechrau yn 1982, pan gafodd Mark Williams ei daro gan gar a cholli’i goes, ac yntau’n 10 oed.

Ers chwe blynedd, mae’r gŵr busnes o Sir Ddinbych wedi bod yn creu gorchuddion lliwgar a hwyliog i goesau prostheteg.

Cofia Mark ei fod yn teimlo fel bod ei fywyd drosodd pan ddeffrodd ar ôl y ddamwain a sylwi ei fod wedi colli’i goes, ond aeth yn ei flaen i ddod yn bencampwr nofio’r byd.