Mae deiseb sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cartref Owain Glyndŵr wedi cyrraedd carreg filltir o 7,500 o lofnodion.
Yn ddiweddar, mae beirniadaeth wedi bod am gyflwr safle Sycharth yng ngogledd Sir Drefaldwyn, gyda Penri Roberts, sylfaenydd Cwmni Theatr Maldwyn, gynt yn galw ar y llywodraeth i brynu’r safle.
Mae’r ddeiseb ddiweddaraf hon gan Elfed Wyn ap Elwyn, cynghorydd Plaid Cymru yng Ngwynedd, yn adleisio’r galwadau i’r safle ddod i ddwylo cyhoeddus, a’i gwneud yn fwy hygyrch i’r cyhoedd.
Wedi’i leoli i’r de o bentref Llansilin, bu’r safle yn gartref i dywysogion Powys Fadog, ac yn ôl pob tebyg, Sycharth oedd man geni Owain Glyndŵr.
Cafodd ei losgi’n ulw ym Mai 1403 gan filwyr Brenin Harri IV yn ystod Gwrthryfel Glyndŵr.
Mae’r safle bellach yn heneb gofrestredig sy’n cael ei gwarchod, ac ar hyn o bryd dan berchnogaeth breifat gyda mynediad i ymwelwyr trwy gytundeb gyda Stad Llangedwyn.
Mae’r safle wedi derbyn cyllid gan wasanaeth amgylcheddol hanesyddol Llywodraeth Cymru, Cadw, gan gynnwys gwaith diweddar i’r gamfa a maes parcio.
‘Datblygu i’r genedl’
Dywed Elfed Wyn ap Elwyn, trefnydd y ddeiseb, ei bod hi’n “anhygoel” gweld y gefnogaeth mae’r ddeiseb wedi’i hennill hyd yn hyn.
“Dw i’n awyddus i weld y safle yn cael ei datblygu i’r genedl, gan wneud y safle’n haws i’w chyrraedd, gwell i’w cherdded, a bod mwy o adnoddau i’w cael i adrodd hanes Glyndŵr yn iawn,” meddai cynrychiolydd ward Bowydd a Rhiw ar Gyngor Gwynedd.
“Dw i’n gobeithio y bydd hyn yn sail i lefydd eraill pwysig i hanes Cymru gael eu datblygu a’u dathlu.”
Yn gynharach y mis yma, cyhoeddodd Cadw eu bod nhw wedi prynu Llys Rhosyr – llys canoloesol Tywysogion Cymru ger Niwbwrch, Môn – er mwyn “i bawb allu ei werthfawrogi”.
Byddai’r ddeiseb o blaid prynu Sycharth yn cael ei hystyried am ddadl yn y Senedd pe bai’n cyrraedd 10,000 o lofnodion. Bydd y ddeiseb yn cau ar Fai 23.
Mae’r ddeiseb eisoes wedi cael ei chefnogi a’i rhannu gan nifer o wleidyddion, gan gynnwys Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd; Geraint Davies, Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Abertawe; a Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.
‘Lle hollbwysig mewn hanes’
Ychwanega Bryn Davies, Cynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Sir Powys, fod “gan Sycharth le hollbwysig yn hanes Cymru a Phrydain”.
“Fodd bynnag, er gwaethaf y rhan annatod y mae’n ei chwarae yn nhreftadaeth ein cenedl, mae’r safle wedi cael ei hesgeuluso’n lawer rhy aml gan yr awdurdodau,” meddai.
“Rwy’n croesawu’r ddeiseb hon ac yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud llawer, llawer mwy i hyrwyddo’r safle hon o arwyddocâd hanesyddol.”