Mae Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg y Senedd wedi galw am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r strategaethau pontio sydd mewn lle rhwng gwasanaethau iechyd meddwl plant ac oedolion.
Mewn llythyr, sydd wedi ei gyfeirio at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl, Lynne Neagle, mae’r pwyllgor yn tynnu sylw at sesiwn yn ystod mis Rhagfyr 2022 a oedd yn ymwneud ag adroddiad Sortiwch y Switsh Mind Cymru.
Cododd yr adroddiad Sortiwch y Switsh awgrymiadau ynglŷn â sut i gynnig cefnogaeth i bobol ifanc wrth iddyn nhw symud oddi wrth wasanaethau iechyd meddwl plant ac oedolion.
Roedd y sesiwn yn ystod mis Rhagfyr, ble’r oedd Lynne Neale yn bresennol, yn gyfle i bobol ifanc a oedd yn ymwneud a’r adroddiad ofyn cwestiynau a rhannu eu profiadau.
Y prif fwriad oedd sicrhau profiadau gwell i bobol ifanc wrth iddyn nhw adael y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) a symud tuag at wasanaethau oedolion (AMHS).
Galw am ddiweddariadau
Mae’r llythyr, sydd wedi ei arwyddo gan gadeirydd y Pwyllgor, Jane Bryant, yn nodi:
“Gwyddom eich bod chi eich hun yn ymroddedig iawn i sicrhau gwelliannau sylweddol yn lles meddyliol ac emosiynol plant a phobol ifanc a’r gwasanaethau sy’n cefnogi hyn.
“Roeddech yn glir yn ystod y sesiwn fod pontio yn faes blaenoriaeth.”
Fodd bynnag, mae’n mynd ati i ofyn am gyfres o ddiweddariadau ynglŷn â phontio gwasanaethau iechyd meddwl a’r datblygiadau sy’n cael eu gwneud.
Gofynna’r llythyr wrth y Gweinidog sut y bydd hi’n sicrhau bod “ymrwymiad traws llywodraethol” i’r meysydd mae hi’n eu blaenoriaethu.
Mae’n galw am y “gyfres lawn o strategaethau a chanllawiau a luniwyd gan Lywodraeth Cymru sy’n berthnasol i’r pontio rhwng CAMHS ac AMHS,” gan nodi bod bwlch o ran gweithredu rhwng y strategaethau pontio a phrofiadau pobol ifanc gyda’r ddarpariaeth o’r strategaethau hyn.
Mae hefyd yn galw am wybodaeth bellach ynglŷn â phynciau tebyg megis pa welliannau sydd wedi cael eu cyflawni ar draws gwasanaethau pontio anhwylderau bwyta plant ac oedolion.
“Byddwn yn ymateb maes o law”
“Mae gwella’r pontio o wasanaethau iechyd meddwl plant a phobol ifanc i wasanaethau oedolion yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni,” meddai llefarydd dros Lywodraeth Cymru.
“Ym mis Chwefror 2022, fe wnaethom gyhoeddi canllawiau newydd yn nodi sut rydym yn disgwyl i wasanaethau gofal iechyd i blant a phobol ifanc gael eu darparu gan fyrddau iechyd yn ystod cyfnodau pontio.
“Dilynwyd hyn gan adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn ymgysylltu’n uniongyrchol â phobol ifanc sydd wedi byw profiad o drawsnewid.
“Roedd yr adroddiad, Llais y Bobol Ifanc, yn nodi canfyddiadau’r adolygiad.
“Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda phobl ifanc, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a sefydliadau trydydd sector i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd a diweddaru’r arfer gorau o fewn gwasanaethau iechyd meddwl.
“Rydym yn ystyried y llythyr gan Bwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg y Senedd a byddwn yn ymateb maes o law.”