Bydd cân fuddugol y gystadleuaeth Cân i Gymru eleni, ‘Patagonia’, yn cael ei pherfformio yng Nghystadleuaeth Cân Ryngwladol yr Ŵyl Ban Geltaidd heno (nos Iau, Ebrill 13).
Mae’r un a fydd yn ei pherfformio, Dylan Morris o Bwllheli sy’n llais cyfarwydd ers dyddiau’r grŵp Côr-ona, yn dweud ei bod hi’n “fraint” cael cynrychioli Cymru yno a rhannu darn o hanes y wlad.
Yn ymuno gyda Dylan Morris, fydd criw y Moniars Bach/Elysian fel band a lleisiau cefndir, a bydd Alistair James, cyfansoddwr y gân, yno yn cefnogi hefyd.
Dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal ers y pandemig ac mae’r Cymry wedi llwyddo i deithio draw er gwaethaf Storm Noa sydd wedi rhwystro nifer o Lydaw rhag teithio yno.
‘Braint’ cynrychioli Cymru
“Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen, mae o’n gyffrous iawn,” meddai Dylan Morris wrth golwg360.
“Mae o’n neis cael bod yma yng nghanol Iwerddon yn cystadlu a pherfformio ‘Patagonia’ ar ôl y llwyddiant gawson ni ar Cân i Gymru.
“Dyma’r tro cyntaf i fi berfformio yn Iwerddon a’r tro cyntaf i fi fod yn yr ŵyl hefyd, felly profiad hollol newydd i fi.
“Ond gobeithio bydd pawb yn mwynhau.”
Daeth ‘Patagonia’ i’r brig yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2023 ar ôl i Alistair James dreulio 17 mlynedd yn cystadlu.
Mae’r gân Ladinaidd yn trafod hanes y Cymry’n teithio draw i Batagonia ar y Mimosa.
“Mae o’n wych o deimlad cael rhannu ychydig o hanes Cymru gyda ‘Patagonia’,” ychwanegodd Dylan Morris.
“Mae o’n grêt cael chwarae rhan yn nhîm Cymru yma.
“Mae o’n fraint fawr.
“Mae hi wedi bod yn neis cael gweld yr holl draddodiadau gwahanol sydd gan y gwledydd Celtaidd hefyd.”