Mae darlunydd wedi penderfynu defnyddio’i grefft er mwyn dysgu Cymraeg a helpu eraill i ddysgu’r iaith, ac mae’r ymateb wedi bod yn “aruthrol”.

Cafodd Joshua Morgan ei fagu yng Nghymru cyn symud draw i Loegr gyda’i deulu yn ei arddegau, ac yna i De Affrica am gyfnod.

Symudodd yn ôl i Gymru i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae o bellach wedi ymgartrefu yno gyda’i wraig a’u mab.

Gadawodd ei waith fel athro mewn ysgol gynradd er mwyn gweithio fel darlunydd proffesiynol, a’i brosiect diweddaraf yw ‘Sketchy Welsh’, sy’n defnyddio’i waith darlunio er mwyn dysgu ymadroddion yn y Gymraeg.

Bwriad y prosiect yw helpu ei hun a’i wraig a’i fab i ddysgu’r Gymraeg, tra hefyd yn helpu’r gymuned ehangach o ddysgwyr.

O ddysgu Xhosa i’r Gymraeg

Llun: @sketchy_welsh ar Instagram

Wrth dreulio amser yn byw yn Cape Town yn Ne Affrica dysgodd Josh Xhosa, sef iaith Nguni ac un o ieithoedd swyddogol De Affrica a Zimbabwe.

Aeth ati i sefydlu cyfrif Instagram er mwyn dysgu Xhosa hefyd, sef @xhosatalk.

Dysgu Xhosa arweiniodd Josh i fod eisiau dysgu’r Gymraeg, yn rhannol.

“Wnaethon ni dreulio rhywfaint o amser yn Ne Affrica a dysgu Xhosa allan yno yn Cape Town,” meddai wrth golwg360.

“Wnes i fwynhau dysgu’r iaith yna yn fawr, a chael mewn i ddiwylliant y bobol yno.

“Wnes i sylweddoli bod dysgu iaith yn gyrraeddadwy, felly wrth ddod yn ôl i Gymru roedd o’n teimlo fel syniad cyffrous i ddysgu Cymraeg a chael mewn i ddiwylliant Cymreig a dysgu am fy nhreftadaeth.”

Mae Xhosa hefyd yn rhannu rhai synau gyda’r Gymraeg – ‘hl’ yn Xhosa yw ‘ll’ yn y Gymraeg, a ‘rh’ yn Xhosa yw ‘ch’ yn y Gymraeg.

Cyhoeddi llyfr lluniau Cymraeg

Llun: @sketchy_welsh ar Instagram

Dechreuodd Josh ‘Sketchy Welsh’ er mwyn helpu ei hun ar y daith i ddysgu’r iaith yn wreiddiol.

Ond erbyn hyn mae ganddo gyfrif Instagram, Facebook a Twitter ble mae’n rhannu’r darluniau er mwyn helpu eraill hefyd.

“Roeddwn i eisiau gwneud yr ymadroddion yn fwy cofiadwy drwy roi darluniau rhyfedd a hwyliog gyda nhw yn hytrach na fy mod i jest yn darllen y brawddegau yn fy llyfr nodiadau.

“A gan fod fy nheulu hefyd yn dysgu, roeddwn i’n meddwl byswn i’n gwneud llyfr i ni ddefnyddio.”

Bydd ei lyfr cyntaf i ddysgu’r Gymraeg, Thirty One Ways to Hoffi Coffiar gael yn fuan iawn trwy ei fusnes cyhoeddi, Howling Wolf Books.

“Mae o’n gasgliad o ffyrdd rili rhyfedd fyset ti’n yfed coffi neu ddim yn yfed coffi, ond mae yna ymadrodd defnyddiol yn y Gymraeg ar bob tudalen.

“Roeddwn i’n meddwl byswn i’n cyhoeddi trwy Howling Wolf Books, ond wedyn trwy Sketchy Welsh wnes i sylweddoli bod yna lot o ddysgwyr Cymraeg ac maen nhw i gyd yn angerddol ac yn awyddus iawn i i gymryd rhan mewn ffyrdd creadigol o ddysgu iaith.

Mae Josh yn defnyddio’r capsiwn sy’n mynd gyda’i ddarluniau er mwyn rhannu’r brawddegau er mwyn helpu ei ddilynwyr i ddeall geiriau unigol.

“Trwy ddysgu Xhosa a’r Gymraeg, dw i’n teimlo mai’r ffyrdd gorau o ddysgu ydy trwy ffyrdd sy’n torri pob cydran o frawddeg lawr, gan felly dim jest rhoi ymadrodd i’r unigolyn ond egluro pob cydran fel dy fod yn gallu defnyddio pob un o’r rheiny ar ben eu hunain.

“Dw i’n trio gwneud hynny mor dda ag y gallai – paru’r geiriau Saesneg i’r geiriau Cymraeg, a phan dw i methu gwneud hynny byddai’n trio egluro ystyr gair hefyd.

“Mae o wedi bod yn syndod cael gymaint o ymateb, swm aruthrol o ymateb ac ymatebion cadarnhaol iawn.”

Defnyddio cerddoriaeth i ddysgu

Mae Josh eisoes wedi cydweithio gydag ambell un ar gyfer y darluniau a hynny drwy gael ysbrydoliaeth gan gerddoriaeth.

Cyn y Nadolig bu’n gweithio gydag ysgol gynradd yng Nghaerdydd.

“Wnaethon ni greu darluniad mewn diwrnod i fynd gyda chân Siôn Corn gyda chyfieithiad Saesneg.

“Roedd o’n gymaint o hwyl felly rydyn ni’n bwriadu gwneud mwy o’r diwrnodau yna i gynnwys y plant yn rhan o’r broses.

“Dw i’n chwarae offerynnau ac wedi bod yn dysgu caneuon Cymraeg, felly dw i’n bwriadu dod â cherddoriaeth mewn i Sketchy Welsh hefyd.”