Am y tro cyntaf eleni, bydd theatr byw yn rhan o ŵyl gerddorol Maes B yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan.
Mae cwmni’r Frân Wen yn chwilio am bymtheg o bobol ifanc rhwng 16 a 25 oed i berfformio yn y digwyddiad.
Bydd Popeth ar y Ddaear, sy’n cael ei gyfarwyddo gan Nico Dafydd, yn gwahodd cynulleidfa i gamu mewn i fyd yn y dyfodol.
Iestyn Tyne, Marged Tudur, Lauren Connelly a Mari Elen sydd wedi sgrifennu’r ddrama, ac mae’r Frân Wen yn chwilio am berfformwyr i greu ensemble corfforol, symud, cerddorol a lleisiol.
Bydd yr ymarferion yn cael eu cynnal ym Mangor.
“Am y tro cyntaf yn hanes Maes B mae yna theatr byw yn mynd i fod yn rhan o’r wythnos,” meddai Carl Owen, Rheolwr Marchanta, Cwmni Fran Wên wrth golwg360.
“Ar Nos Wener Awst 11, bydd Popeth ar y Ddaear y cael ei berfformio, a bydd yn gwahodd cynulleidfaoedd i gamu mewn i fyd yn y dyfodol ble mae yna drychineb catastroffig wedi boddi cymunedau.
“Mae’r gynulleidfa yn rhan o’r digwyddiad.
“Mae’n ddigwyddiad eithaf imersive lle rydym yn dilyn cymeriadau yn y dyfodol yn chwilio am loches a noddfa.”
‘Cyfle pwysig’
Bydd y cynhyrchiad yn dilyn tri chymeriad, ond bydd y cast yn un “enfawr” a’r cam cyntaf yw chwilio am bymtheg perfformiwr neu gyfrannwg ifanc.
“Dim ots beth ydy’r sgiliau perfformio, gall fod yn sgwennu, actio, dawnsio neu gerddoriaeth,” eglura Carl Owen.
Mae’n gyfle am ddim, a bydd y Frân Wen yn talu am docyn Maes B am ddim i’r perfformwyr ifanc am wythnos.
“Mae’n gyfle anhygoel i fod yn rhan o rywbeth sydd heb ddigwydd o’r blaen yn Maes B,” meddai
“Mae’n gyfle pwysig oherwydd mae’n bwysig bod pobol ifanc yn gweld bod yna gyfleoedd a bod yna digwyddiadau cyffrous, unigryw, gwreiddiol yn cael eu cynhyrchu yma yng Nghymru, yn yr iaith Gymraeg hefyd.
“Mae’n bwysig bod ni’n dangos i bobol ifanc bod y cyfleoedd allan yna, bod ni’n creu cynnyrch rili, rili cŵl hefyd.”
Mae artistiaid ifanc cysgodol eisioes wedi ei penodi i gysgodi’r prif artistiaid creadigol sydd wrthi’n creu’r gwaith. Osian Huw Williams sydd wrthi’n creu’r sgôr i’r perfformiad, ac mae’r chwe artist cysgodol yn gweithio ochr yn ochr ag yntau, y dramodwyr a’r cyfarwyddwr.
Ni fydd y Fran Wên yn cynnal cyfweliadau unigol ond yn hytrach yn gwahodd pawb sydd â diddordeb i weithdy creadigol gyda’r artistiaid arweiniol yn NYTH, Bangor rhwng 2yp a 5yh ar Ebrill 23 2023.
I ddatgan diddordeb mewn mynychu, mae gofyn i bobol lenwi ffurflen gais cyn ddydd Llun (Ebrill 17).