Mae’r dylunydd a chyfarwyddwr celf Gwyn Eiddior wedi talu teyrnged i’r Fonesig Mary Quant, yn dilyn ei marwolaeth yn 93 oed.

Roedd y dylunydd – oedd yn ferch i’r athrawon Jack a Mildred oedd wedi hyfforddi ym Mhrifysgol Caerdydd cyn mynd i weithio yn Llundain – yn fwyaf adnabyddus am boblogeiddio’r sgert mini.

Ond roedd hi hefyd yn adnabyddus ym maes dylunio trowsus i ferched, trywsanau, hetiau lliwgar a cholur, ac yn cael ei hystyried yn “arloeswraig” gan arbenigwyr yn Efrog Newydd.

Roedd hi’n un o’r dylunwyr ffasiwn amlycaf yn y 1960au ac yn byw yn Surrey ar ddiwedd ei hoes.

Mae ei gwaith wedi cael ei gydnabod yn helaeth yn y byd ffasiwn, gan ennill iddi lu o wobrau.

Roedd hi’n briod ag Alexander Plunket Greene tan ei farwolaeth yn 1990, ac roedd ganddyn nhw fab, Orlando.

“Mary Quant, yn sicr cyfraniad amlycaf a mwya’ pellgyrhaeddol un o Gymru i ffasiwn y blant yn yr ugeinfed ganrif,” meddai Gwyn Eiddior ar Twitter.

Roedd hyn yn ymateb i gyfrif Twitter V&A, sy’n dweud ei bod hi’n “amhosib gorddweud cyfraniad Quant i ffasiwn”.

“Roedd hi’n cynrychioli rhyddid llawen ffasiwn y 1960au, ac wedi cynig model rôl newydd i fenywod ifainc.

“Mae ar ffasiwn gymaint i’w gweledigaeth oedd yn torri tir newydd.”