Mae’r rhestr lawn o’r artistiaid fydd yn chwarae yn Sesiwn Fawr Dolgellau 2023 wedi cael ei chyhoeddi heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 15).

Bydd 42 band yn perfformio ar unarddeg llwyfan ar hyd a lled y dref dros benwythnos Gorffennaf 20-23.

Ymhlith yr artistiaid fydd yn ymddangos ar brif lwyfan yr ŵyl yng Ngwesty’r Ship mae Dafydd Iwan ac Ar Log, Bwncath, Mared, Rusty Shackle, a’r band Heisk o’r Alban.

Yn sgil dathlu 30 mlynedd ers sefydlu’r Sesiwn y llynedd, mae’r trefnwyr wedi penderfynu lansio tri llwyfan newydd ynghanol y dref eleni, symud llwyfan y Clwb Rygbi i Dŷ Siamas a chynnal ail gig yn Eglwys y Santes Fair.

Mae trefnwyr y Sesiwn Fawr yn dathlu rhyddhau’r lein-yp llawn mewn Gŵyl Gwrw yn Nhŷ Siamas yn y dref heddiw, yng nghwmni bandiau lleol fel Lost Voltz, Steffan Jones a Garin Hughes.

Er bod tocynnau Penwythnos yr ŵyl wedi gwerthu yn gynt nag erioed, gwta wythnos ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau, mae yna docynnau ar gyfer gigs Tŷ Siamas a’r Eglwys ar gael ar wefan y Sesiwn Fawr.

Mae’r artistiaid eraill fydd yn perfformio mewn cyngherddau arbennig yn ystod yr ŵyl yn cynnwys Cowbois Rhos Botwnnog a Cerys Hafana, a bydd Sesiwn Jazz yng nghwmni’r cerddor lleol Richy Jones.

Ar ôl llwyddiant y Pentre’ Plant y llynedd, bydd hwnnw’n dychwelyd eto eleni.

Bydd digwyddiadau eraill yn Nhŷ Siamas ar y prynhawn Sadwrn hefyd, gan gynnwys trafodaeth banel ar faterion gwleidyddol o bwys i bobol ifanc, ‘Cylchu Cymru’ efo Gareth Evans-Jones, cyfle i weld a chlywed ffrwyth llafur y prosiect ‘Tradd-od’, a sgwrs gan Merfyn Wyn Tomos am ei lyfr diweddar sy’n olrhain hanes tafarndai Dolgellau.

‘Uchafbwynt y calendr’

Bydd Melda Lois, artist lleol i’r ŵyl, yn perfformio am y tro cyntaf eleni, a dywed ei bod hi’n “hynod ddiolchgar o gael y llwyfan a’r cyfle i brofi’r Sesiwn mewn ffordd newydd eleni”.

“Mae’r Sesiwn Fawr yn un o uchafbwyntiau’r calendr cerddorol yma yng Nghymru ac mae cael y cyfle i berfformio yma ar ôl bod yn rhan o’r gynulleidfa ers sawl blwyddyn yn rhywbeth sbesial iawn.”

‘Gwahodd cynulleidfa hen a newydd’

Dywed Guto Dafydd, cadeirydd Pwyllgor Sesiwn Fawr Dolgellau, mai eu prif nod fel trefnwyr yw “adeiladu ar lwyddiant yr ŵyl o flwyddyn i flwyddyn”.

“Mi ydan ni’n benderfynol o barhau i gynnal naws croesawgar a chynhwysol y Sesiwn, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i artistiaid newydd a lleol fel ei gilydd,” meddai.

“Rydym ni fel criw yn edrych ymlaen yn eiddgar at wahodd cynulleidfa newydd yn ogystal â hen ffrindiau i Ddolgellau.”