Cafodd bom ei wneud allan o diwb Horlicks mewn ymgais i atal arwisgiad y Tywysog Charles yng Nghaernarfon gan ddyn oedd yn cael ei adnabod fel “Barnes Wallis” Cymru.

Ond wnaeth y ddyfais, gafodd ei chreu i ryddhau’r Cymry o “ormes y Sais”, ddim achosi llawer o ddifrod pan gafodd ei phrofi, gan orfodi Byddin Rhyddid Cymru (yr FWA) a’u harweinydd lliwgar Cayo Evans i ailfeddwl eu cynllun.

Mae’r hanesyn, sy’n cael ei adrodd gan y newyddiadurwr Lyn Ebenezer, yn ymddangos mewn llyfr newydd o’r enw Charles and the Welsh Revolt gan Arwel Vittle, gafodd ei fagu yn Sir Gaerfyrddin a Chaerdydd ac sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon.

Mae’r llyfr yn archwilio’r dechrau ffrwydrol i yrfa frenhinol y Brenin Charles III a sut, yn ôl cenedlaetholwyr, mae’r “traddodiad brenhinol gormesol wedi bod yn falltod ar y genedl ers canrifoedd”, ers i Edward I ddiorseddu Tywysog brodorol olaf Cymru, Llywelyn ap Gruffudd, yn 1282.

Mae’r llyfr hefyd yn manylu ar gynlluniau rhyfedd yr FWA, oedd yn cynnwys “cŵn kamikaze” a thail i amharu ar seremoni 1969 yng Nghastell Caernarfon, a welodd hefyd bedwar bom arall yn cael eu plannu gan y grŵp milwriaethus Mudiad Amddiffyn Cymru (MAC).

Teithio gyda Cayo Evans, ‘Barnes Wallis Cymru’

Mae Lyn Ebenezer yn cofio teithio i ardal anghysbell gyda Cayo Evans yn y cyfnod cyn yr arwisgo brenhinol.

“Yno roedd tua ugain o fechgyn yr FWA yn profi bom newydd,” meddai.

“Roedd y bom wedi ei wneud allan o diwb Horlicks ac roedd y dyn wnaeth y bom yn byw yn Llangollen.

“Cyflwynodd Cayo ef fel ‘Barnes Wallis Cymru’, y mae ei fom yn mynd i’n rhyddhau o ormes y Sais.”

Peiriannydd a dyfeisiwr o Loegr oedd Barnes Wallis, sy’n fwyaf adnabyddus am ddyfeisio’r bom ‘bownsio’ gafodd ei ddefnyddio gan yr Awyrlu Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Wrth gofio’r bom oedd yn cael ei brofi, mae Lyn Ebenezer yn cofio cuddio tu ôl i wal gerrig.

“Ac ro’n ni i gyd tu ôl y wal nawr a dyma fi’n gweld y mwg yn mynd mewn i’r wal i’r bom, ac wedyn mewn ychydig eiliadau sŵn: ‘Ffftt’,” meddai.

“Cododd cwmwl o fwg ond symudwyd dim un garreg!

“Roedd defaid yn dal i bori a chododd dim un ohonyn nhw’u pennau chwaith.

“A dw i’n cofio’n iawn beth wedodd Cayo: ‘F**k it, boys – back to the drawing board!”

Hanes yr FWA a MAC

Ymddangosodd yr FWA yn gyhoeddus am y tro cyntaf mewn protest yn 1965 yn erbyn adeiladu cronfa ddŵr Llyn Celyn ger y Bala.

Ar un achlysur, gosododd aelod o’r FWA harnais ar ei gi, gan ddweud y byddai’n cael ei ddefnyddio i gario ffyn o jeligneit ffrwydrol.

Dywedodd fod ganddo ddwsinau o gŵn i gyd wedi’u hyfforddi i gario dyfeisiau magnetig i’w gosod o dan gerbydau’r Fyddin.

Roedd cynllun arall yn cynnwys llogi hofrennydd i ollwng tail gwartheg ar seremoni’r Arwisgo.

Canlyniad campau’r FWA oedd tynnu sylw oddi wrth y “bomwyr go iawn” sef MAC, dan arweiniad John Jenkins, gafodd ei radicaleiddio gan foddi Cwm Tryweryn ger y Bala.

Cafodd y cenedlaetholwr Cymreig a’r milwr yn y Fyddin Brydeinig ei garcharu am 10 mlynedd am drefnu ffrwydradau mewn ymgyrch yn erbyn yr arwisgiad.

Ffrwydrodd un ddyfais yn annisgwyl gan ladd dau aelod o MAC yn Abergele.

Y diwrnod canlynol, cafodd dau fom arall eu plannu yng Nghaernarfon.

Ffrwydrodd un yng ngardd prif gwnstabl Gwynedd yn ystod y saliwt 21-gwn.

Cafodd un arall ei blannu ym Mhier Llandudno, lle’r oedd disgwyl i Britannia, y Llong Frenhinol, angori ond methodd y ddyfais â thanio.

Cafodd yr ail fom yng Nghaernarfon ei darganfod gan fachgen 10 oed o Swydd Buckingham wrth chwarae pêl-droed tra ar wyliau. Collodd y bachgen ran o’i goes pan ffrwydrodd y ddyfais.

Mae John Jenkins, fu farw’n ddiweddar, yn cael ei ddyfynnu yn y llyfr gan dweud, “Sut ddiawl ydych chi’n disgwyl i bobl ddathlu eu concwest eu hunain?

“Dathlu’r ffaith nad oedden ni wedi symud ymlaen fodfedd yn y 700 mlynedd diwethaf, ac mewn gwirionedd wedi symud yn ôl cwpl o lathenni.

“Un peth yw cofio, peth arall yw dathlu.

“Yr unig ffordd i gael eich clywed yw codi stwr. Ac mae’n rhaid i chi godi stwr sy’n creu bygythiad credadwy.

“Dyna pam y bu’n rhaid i ni wneud bygythiadau uniongyrchol yn erbyn Charles. Doedd byth bwriad i’w cyflawni, wrth gwrs. Beth fyddai pwynt yr adwaith gwleidyddol i’w ladd?”

‘Hanesion uniongyrchol’

Mae Arwel Vittle, sy’n dad i dri o blant, yn awdur llyfrau hanes poblogaidd megis I’r Gad – cyfrol ffotograffig am brotestiadau iaith – a Valentine, cofiant i Lewis Valentine.

Dywed ei bod yn “ddiddorol” clywed hanesion uniongyrchol yr ymgyrchwyr a’r eithafwyr oedd yng nghanol y protestio.

“Roedd yn gyfnod llawn tyndra nid yn unig gyda’r ymgyrch fomio, ond hefyd protestiadau di-drais a ralïau mawr Cymdeithas yr Iaith a Phlaid Cymru yn cael ei llwyddiannau etholiadol cyntaf,” meddai.

“Roeddwn am edrych ar yr hyn a achosodd yr adwaith eithafol hwn ynghylch yr Arwisgo, a oedd hi’n werth ymgyrchu mor galed yn erbyn y peth, ac a allai’r cyfan ddigwydd eto.

“Ro’n i’n meddwl y byddai’n ddiddorol edrych ar flynyddoedd ffurfiannol Charles ym mywyd cyhoeddus fel Tywysog, a ddechreuodd mewn modd reit ffrwydrol, oherwydd awyrgylch gwleidyddol Cymru’r chwedegau, a oedd yn danbaid a dweud y lleiaf.

“Gyda Charles yn dod yn Frenin, roeddwn i eisiau ysgrifennu llyfr hanes poblogaidd a oedd yn ddarllen difyr yn ogystal â rhoi gwybodaeth.

“Roedd yn dda clywed o lygad y ffynnon sut brofiad oedd bod yn rhan o’r cyfnod – profiadau nad ydyn nhw wedi’u cofnodi mewn llawer o lyfrau hanes eraill.

“Doedd llawer ddim wedi siarad o’r blaen am eu profiadau– yn enwedig o ran gweithgaredd yr heddlu cudd – yn wir cymharodd Saunders Lewis y sefyllfa yng Ngwynedd ar y pryd i wladwriaeth plismyn fel yr hen Tsiecoslofacia – ac roedd yn ddiddorol codi’r llen ar hynny.”

Caiff Charles and the Welsh Revolt ei chyhoeddi gan Y Lolfa, ac mae ar gael i’w phrynu ar-lein ac mewn siopau llyfrau o Fawrth 31.

Lluniau: