Mae achos llys un arweinydd yng Nghatalwnia yn dechrau heddiw (dydd Mercher, Mawrth 29), tra bod un arall ar ei ffordd i Frwsel, a bydd un arall yn clywed ei dynged cyn diwedd y flwyddyn.

Fe fu Meritxell Serrett, gweinidog gweithgarwch tramor, yn alltud ac mae erlynwyr yn galw am waharddiad o swydd gyhoeddus am flwyddyn a dirwy o 12,000 Ewro am anufudd-dod i’r cyn-weinidog amaeth ond fydd dim cyfnod o garchar yn y pen draw am y drosedd.

Chafodd hi mo’i harestio gan ei bod hi wedi mynd at yr heddlu o’i gwirfodd ar ôl gadael Catalwnia am Wlad Belg yn fuan ar ôl refferendwm 2017 cyn dychwelyd yn 2021 a mynd gerbron y Goruchaf Lys, gyda’r achos yn cael ei drosglwyddo maes o law i’r Uchel Lys.

Bydd modd iddi apelio yn erbyn ei dedfryd yn y Goruchaf Lys, ac mae hi’n mynnu bod y frwydr tros annibyniaeth yn “ddilys” ac “yn enw gweriniaeth Catalwnia”.

Mae cefnogwyr y gwleidydd sy’n cynrychioli plaid Junts per Catalunya wedi bod yn ymgynnull y tu allan i’r llys ar drothwy’r achos, ac mae ganddi gefnogaeth yr arweinydd Pere Aragonès hefyd.

Yn y cyfamser, mae Clara Ponsatí wedi dychwelyd i Frwsel ar ôl cael ei chadw yn y ddalfa a’i rhyddhau yn Barcelona.

Mae’r gwleidydd Junts a chyn-weinidog addysg adeg y refferendwm yn 2017, yn wynebu cyhuddiad o anufudd-dod.

Fydd hi chwaith ddim yn cael ei charcharu, ond cafodd ei harestio ar ôl iddi fethu â mynd i’r llys o’i gwirfodd.

Mae disgwyl iddi fynd i wrandawiad ar Ebrill 24 i glywed y cyhuddiadau y bydd hi’n eu hwynebu, ond yn ôl ei chyfreithiwr dydy hi ddim yn bwriadu bod yno – rhywbeth allai arwain at ei harestio.

Mae hi hefyd yn wynebu cael gwaharddiad rhag bod mewn swydd gyhoeddus, yn ogystal â dirwy.

Ond mae ei chyfreithwyr yn dadlau bod ei sefyllfa’n unigryw gan ei bod hi’n Aelod o Senedd Ewrop, ac mae Comisiwn yr Undeb Ewropeaidd yn dweud y gall aelodau presennol gael eu harestio o dan rai amgylchiadau ond y bydd adolygiad o’i hachos yn cael ei gynnal maes o law.

Bydd Carles Puigdemont, arweinydd Catalwnia adeg y refferendwm, yn dychwelyd i’r wlad cyn diwedd y flwyddyn, yn ôl ei gyfreithiwr.

Fe fu’n alltud ers yn fuan ar ôl y refferendwm, sy’n cael ei ystyried yn un anghyfansoddiadol gan Sbaen.