Mae myfyrwyr addysg uwch yn haeddu safon gyson o gymorth iechyd meddwl, meddai un o bwyllgorau’r Senedd.
Ar hyn o bryd, does dim safon benodol ar gyfer gwasanaethau iechyd a lles meddyliol prifysgolion Cymru, er bod bob un wedi ymuno â fframweithiau Suicide-safer Universities a Stepchange.
Rhaid i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin rhwng darparwyr addysg, darparwyr gofal iechyd a Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyfrifoldebau a gwasanaethau iechyd meddwl fod yn flaenoriaeth, meddai adroddiad Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg y Senedd.
Mae’r pwyllgor yn gwneud yr argymhelliad heddiw (Mawrth 29) ar ôl ymchwilio i effeithlonrwydd cymorth iechyd meddwl mewn lleoliadau addysg uwch yng Nghymru.
Yn ôl y pwyllgor, mae problemau fel y pandemig a phwysau costau byw effeithio ar bawb, ond mae pobol mewn addysg uwch yn wynebu heriau penodol a all fod yn unigryw i brofiad myfyrwyr.
‘Dim safon benodol’
Dywedodd Jayne Bryant, Cadeirydd y Pwyllgor, bod pawb y gwnaethon nhw eu holi’n glir am faint y broblem a phwysigrwydd cael y cymorth yn y lle cywir ar yr adeg gywir.
“Ar hyn o bryd, nid oes safon benodol ar gyfer gwasanaethau iechyd a lles meddyliol mewn addysg uwch,” meddai Jayne Bryant, yr Aelod o’r Senedd Llafur dros Orllewin Casnewydd.
“Gan gydnabod poblogaeth gynyddol amrywiol myfyrwyr, ac ystod o ffactorau allanol a all effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant, mae’r Pwyllgor o’r farn y dylid cael safon gyson o ddisgwyliadau i bob myfyriwr.
“Mae mynd i’r brifysgol ac astudio yn y brifysgol yn gyffrous ac mae’n gallu newid bywydau.
“I lawer o fyfyrwyr mae eu profiadau’n rhai da. Ond bydd eraill efallai’n profi adegau anodd gyda’u llesiant emosiynol a meddyliol.”
Cynllun peilot llwyddiannus
Mae cynllun peilot ym mhrifysgolion Caerdydd yn cael canmoliaeth gan y Pwyllgor am y ffordd mae’n diwallu anghenion myfyrwyr.
Mae’r cynllun ar gael i fyfyrwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl cymedrol neu broblemau iechyd meddwl tymor hir mwy cymhleth, ac yn cael ei staffio gan weithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Yn ystod y chwe mis cyntaf, gwelodd y gwasanaeth 200 o fyfyrwyr, ac, yn amodol ar gwblhau asesiad llawn, mae’r pwyllgor yn cefnogi cyflwyno’r model yn llawn dros Gymru.
‘Angen am fwy o gefnogaeth’
Mae elusen iechyd meddwl Mind Cymru wedi croesawu’r adroddiad a’r argymhellion, gan ddweud bod y cyfnod o fynd i’r brifysgol un ansicr, a gall fod yn arbennig o anodd i’r rhai sy’n cael trafferth â’u hiechyd meddwl yn barod.
“Mae pwysau allanol, fel yr argyfwng costau byw a thlodi, yn cyfrannu at y darlun hefyd, a bydd argymhellion y pwyllgor yn gwneud cryn waith i amlygu’r angen am fwy o gefnogaeth i fyfyrwyr yn ystod y cyfnod pwysig hwn yn eu bywydau,” meddai Simon Jones, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd Mind Cymru.
“Rydyn ni hefyd yn falch iawn o weld pwyslais cryf ar grwpiau penodol a chefnogaeth wedi’i theilwra, er enghraifft sut y gallwn gefnogi myfyrwyr rhyngwladol sydd efallai’n ei chael hi’n anoddach delio gydag unigrwydd, ac mae’r argymhelliad i ddarparu pob myfyriwr gyda lefel o hyfforddiant iechyd meddwl yn amhrisiadwy – bydd hyn yn helpu i leihau stigma, codi ymwybyddiaeth ac annog pobol i chwilio am help.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried yr adroddiad hwn yn ofalus ac yn ymateb yn gadarnhaol i’r argymhellion.”
‘Deall y pwysau’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y dylai iechyd meddwl pobol ifanc fod yn ganolog i bob profiad dysgu.
“Yn ddiweddar, fe wnaethon ni ddarparu £2.3m o gyllid ychwanegol i helpu i fynd i’r afael ag effeithiau costau cynyddol ar fyfyrwyr, gan ddarparu cefnogaeth llesiant ac iechyd meddwl.
“Rydyn ni’n deall y pwysau costau byw ychwanegol ar fyfyrwyr yn sgil yr argyfwng costau byw.
“Mae ein grantiau ac ein benthyciadau i fyfyrwyr wedi cynyddu bob blwyddyn, a Chymru sydd â’r gefnogaeth fwyaf hael i fyfyrwyr yn y Deyrnas Unedig.
“Fe wnaethon ni gyhoeddi’n ddiweddar y bydd cyfradd y gefnogaeth byw i fyfyrwyr llawn a rhan amser yng Nghymru’n codi gan 9.4%”