Mae angen “gwelliannau sylweddol” ar Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd yn y Rhyl yn dal i fod, medd adroddiad newydd.

Penderfynodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) bod y gwasanaeth yn un “sydd angen ei wella’n sylweddol”, sef y dynodiad ar gyfer y gwasanaethau lle mae’r pryder mwyaf am eu safonau, ym mis Mai 2022.

Mae adroddiad arall yn dilyn ymweliad ym mis Tachwedd 2022 wedi dod i’r un casgliad, er eu bod nhw wedi gweld “mân welliannau” i’r ysbyty ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Roedd yr adran yn eithriadol o brysur ym mis Tachwedd, ac yn cael trafferthion oherwydd prinder staff, nifer uchel o gleifion difrifol wael a diffyg lle i’w trin, meddai’r adroddiad.

Er bod y staff yn gweithio’n ddiflino i roi’r gofal gorau posibl, fe wnaethon nhw ddweud wrth arolygwyr eu bod nhw’n aml yn teimlo’n anhapus, yn teimlo’u bod nhw’n cael trafferth ymdopi â’r llwyth gwaith, a ddim yn teimlo’u bod nhw cael eu cefnogi gan uwch-arweinwyr y bwrdd iechyd.

Ar ail ddiwrnod ymweliad yr Arolygiaeth, roedd prinder nyrsys a chynorthwywyr gofal iechyd yn yr ardal, a bu’n rhaid i’r arolygwyr roi cymorth i un claf oedd yn wael ac angen help gan oedd unrhyw aelodau o staff i’w gweld.

Daeth yr arolygiad i’r un casgliad eto bod llif y cleifion drwy’r adran yn “hynod heriol”, er bod amseroedd aros cychwynnol i weld meddyg wedi gwella ers yr ymweliad ym mis Mai 2022.

Er hynny, roedd rhaid i gleifion aros tua thair awr o hyd. Roedd mwy na dwy awr o oedi ar adegau cyn i gleifion gael eu brysbennu, ac roedd hyn yn peri risg sylweddol o niwed i’r claf, yn ôl yr arolygwyr.

Roedd hynny’n cynnwys cleifion â chyflyrau lle mae amser yn hollbwysig, fel strôc a phoen yn y frest.

Roedd y gwelliannau ers yr arolygiad diwethaf yn cynnwys codi safon y gwaith cofnodi ar nodiadau cleifion.

‘Anodd ymdopi â’r galw dyddiol’

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi llunio cynllun sy’n cynnwys cyfres o gamau gweithredu i ymdrin â’r amrywiaeth eang o welliannau sydd eu hangen.

Gan fod y gwasanaeth dal o dan lefel graffu uchaf AGIC o hyd, byddan nhw’n parhau i fonitro ymateb y bwrdd iechyd yn agos iawn.

“Nododd yr arolygiad hwn dystiolaeth o adran sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi â’r galw dyddiol sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaeth diogel i gleifion,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr AGIC.

“Tynnodd sylw at feysydd fel gwaith tîm gwael rhwng yr Adran Achosion Brys ac adrannau eraill yn yr ysbyty sydd, yn ei dro, yn ychwanegu at yr heriau a gydnabyddir yn genedlaethol o ran llif cleifion.

“Bydd angen i’r bwrdd iechyd gymryd camau cryf a chadarn i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn ein harolygiad.

“Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r bwrdd iechyd er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i weithredu mewn ymateb i’n canfyddiadau.”

‘Cleifion mewn perygl’

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig ei fod yn siomedig gweld enghraifft wael arall gan ysbyty sy’n cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

“Pan mae staff yn brin, mae problemau’n crynhoi,” meddai Russell George.

“Ar ddiwedd y dydd, y cleifion sydd mewn perygl.

“Yn amlwg, mae materion difrifol yng Nglan Clwyd, ac maen nhw’n treiddio o’r top.”

“Wythnos arall ac adroddiad damniol arall”

Pleidiau’n ymateb i adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar wasanaethau Ysbyty Glan Clwyd