Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad heddiw (dydd Llun, Awst 8) yn tynnu sylw at yr angen am wella’r adran achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd yn y Rhyl ar frys.

Mae arolygiad AGIC yn nodi nad oes gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drefniadau digonol ar waith yn yr adran i gefnogi darpariaeth gofal iechyd diogel.

Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd o’r adran achosion brys am dri diwrnod yn olynol ym mis Mai eleni.

Dynododd AGIC yr adran achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd yn Wasanaeth sydd Angen ei Wella’n Sylweddol, ar Fai 9.

Cafodd yr arolygiad hwn ei gynnal i fynd ar drywydd y pryderon sylweddol a gafodd eu nodi gan AGIC yn ystod gwiriad ansawdd blaenorol a gafodd ei gynnal fis Mawrth.

Mae’r arolygiad wedi derbyn cryn ymateb gan bleidiau gwleidyddol a chorff gwarchod gwasanaethau iechyd annibynnol Gogledd Cymru, Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru (CICGC).

Beth mae’r arolygiad wedi’i ganfod?

  • Roedd cleifion yn feirniadol o amseroedd aros, ac roedd rhai wedi bod yn aros i gael eu gweld gan feddyg am dros wyth awr.
  • Roedd urddas rhai cleifion wedi cael ei effeithio, naill ai gan gyfnodau hir o aros yn yr adran neu o ganlyniad i’r trefniadau oedd wedi’u gwneud i’r cleifion o ran ym mha le ac ym mha ffordd yr oedd rhaid iddyn nhw aros am adolygiad pellach neu driniaeth.
  • Doedd mesurau atal a rheoli heintiau ddim yn ddigon cadarn mewn ystafelloedd clinig a thriniaeth. Roedd cewyll troli metel, paled pren, deunyddiau adeiladu a thrap llygod yn yr ardal amlbwrpas.
  • Roedd llawer o staff yn dweud eu bod nhw’n anhapus ac yn cael trafferth ymdopi â’u llwyth gwaith.
  • Doedd dim sicrwydd fod pob cam yn cael ei gymryd i ddiogelu plant yn briodol yn yr adran.

‘Wythnos arall ac adroddiad damniol arall’

“Dyma wythnos arall ac adroddiad damniol arall, a mwy o bryderon am ddiogelwch cleifion. Pryd fydd hyn yn dod i ben?” meddai Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru.

“Mae’r adroddiad hwn eto’n sôn am gleifion yn cael eu rhoi mewn perygl a staff yn ‘gweithio y tu hwnt i’r amser mewn amodau heriol’.

“Nid oes gennyf lawer o ffydd yn ‘ymyriadau wedi’u targedu’ Llywodraeth Cymru, ac unwaith eto rwy’n galw ar y Gweinidog Iechyd i edrych ar sut y gallai dechrau eto gyda strwythurau iechyd newydd yn y gogledd ddarparu’r dechrau newydd sydd ei angen ar gleifion a staff.

“Nid oherwydd fy mod i eisiau ad-drefnu iechyd yn arbennig, ond fy mod yn meddwl nad oes gennym lawer o ddewis.”

‘Angen newid’

Wrth ymateb i’r arolygiad, dywedodd Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Jane Dodds mai “dyma’r diweddaraf o nifer o adroddiadau brawychus ynglŷn â Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr”.

“Mae’n gwbl amlwg fod y bwrdd wedi’i dynnu allan o fesurau arbennig cyn ei bod yn briodol gwneud hynny,” meddai.

“Rhaid i gleifion a staff gael y sicrwydd sydd ei angen gan Lafur rŵan fod pethau’n mynd i newid.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda’r bwrdd iechyd i gymryd camau sylweddol ar unwaith.”

‘Methu o ran pobol yn y gogledd’

“Unwaith eto, mae’r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd yn methu o ran pobol yng ngogledd Cymru,” meddai Darren Millar, llefarydd gogledd Cymru’r Ceidwadwyr Cymreig.

“Bydd yn destun pryder dwys i bobol ledled y rhanbarth nad yw’r sefyllfa yn Ysbyty Glan Clwyd o hyd yn cael pethau’n iawn, er eu bod nhw wedi’u rhoi dan ymyrraeth arbennig – rhaid i weinidogion Llafur gamu i fyny a chymryd cyfrifoldeb am eu methiannau.

“Mae’n dod yn fwyfwy amlwg mai dim ond am resymau gwleidyddol y cafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu tynnu allan o fesurau arbennig cyn etholiadau’r Senedd.

“Mae’n anghredadwy fod Llafur yn canolbwyntio’u hymdrechion ar ehangu’r Senedd yn hytrach na mynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn enwedig yng ngogledd Cymru.”

‘Peri pryder mawr’

“Rydym yn bryderus i ddarllen yr ail adroddiad anffafriol hwn yn nodi problemau difrifol a materion diogelwch, ac rydym yn siomedig gyda’r diffyg cynnydd ymddangosiadol wrth fynd i’r afael â’r un pryderon a adroddwyd gan AGIC yn gynharach eleni,” meddai Geoff Ryall-Harvey, Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru (CICGC).

“Mae ein hymweliadau dirybudd ein hunain â’r Adran Achosion Brys wedi datgelu amseroedd aros hir, cyfathrebu gwael â chleifion a chyflyrau anodd ac anghyfforddus i gleifion a allai orfod aros am 12 awr neu fwy am driniaeth.

“Mae clywed bod gofal clinigol a diogelwch cleifion yn parhau i fod yn broblem yn peri pryder mawr.”