Mae arolwg newydd yn dangos nad yw 93% wedi bod yn derbyn oedolion sy’n gleifion newydd.

Yn ôl arolwg Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, fe fu llai o apwyntiadau ar gael yng Nghymru nag yn unman arall yn y Deyrnas Unedig.

Yr Alban fu â’r argaeledd gorau yn y Deyrnas Unedig, gyda 18% o ddeintyddfeydd yn derbyn cleifion newydd drwy’r Gwasanaeth Iechyd – 7% oedd y ffigwr yng Nghymru, 9% yn Lloegr a 10% yng Ngogledd Iwerddon.

Daw hyn wythnosau ar ôl i’r Ceidwadwyr Cymreig fynegi pryder am “anialwch” yn y byd deintyddol yng Nghymru, gan alw am wario arian yng Nghymru i’r un graddau â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

Cyn y pandemig, roedd £47 y pen yn cael ei wario ar wasanaethau deintyddol yng Nghymru, ond roedd yn £55 yn yr Alban a £56 yng Ngogledd Iwerddon.

‘Sioc’

“Dylai’r rhifau hyn fod yn sioc i ni i gyd – ond mae’n cyfateb i’r profiadau dw i wedi clywed amdanyn nhw gan bobol dros y misoedd diwethaf,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Yn drist iawn, mae’r rhybuddion am annialwch deintyddol wedi cael eu hanwybyddu gan y Llywodraeth Lafur, felly hefyd deintyddiaeth ar y cyfan, sy’n amlwg o’i ddiffyg arian.

“Dw i wedi siarad â deintyddion sy’n teimlo eu bod nhw’n ariannu gofal deintyddol o’u pocedi eu hunain oherwydd bod yr arian mor wael.

“Dyna pam ein bod ni’n galw ar y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd i gyfateb i lefelau gwariant datganoledig ar ddeintyddiaeth yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol cyn i ragor o bobol gael eu gorfodi i fynd yn breifat neu rwygo’u dannedd eu hunain allan yng nghanol argyfwng costau byw.”