Mae dros ddwy filiwn o gleifion wedi gorfod aros yn rhy hir mewn unedau brys yng Nghymru ers i dargedau gael eu cyflwyno 13 mlynedd yn ôl, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Nod Llywodraeth Cymru yw fod 95% o gleifion yn cael eu derbyn, eu rhyddhau neu eu trin o fewn pedair awr ar ôl cyrraedd yr ysbyty, ond dydyn nhw erioed wedi bwrw’r targed ers ei osod yn 2009.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae 2,208,666 o gleifion wedi aros mwy na phedair awr i gael eu gweld mewn unedau brys ledled Cymru – gyda 410,010 ohonyn nhw’n aros mwy na hanner diwrnod, sy’n rywbeth na ddylai neb orfod ei oddef, yn ôl gweinidogion.
Yn ôl Darren Millar, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r sefyllfa’n awgrymu sut mae pobol yn dioddef o ganlyniad i fethiannau wrth i Lafur geisio mynd i’r afael â’r Gwasanaeth Iechyd.
Yn ôl y ffigurau diweddaraf, roedd 33.6% o gleifion yng Nghymru wedi aros mwy na phedair awr i gael eu gweld mewn uned frys – 28% oedd y ffigwr cyfatebol yn Lloegr a 27% yn yr Alban.
Dros y misoedd diwethaf, fe fu’n rhaid i fwy na 10,000 o bobol aros mwy na 12 awr yn rheolaidd i gael eu gweld.
Daw hyn ar ôl iddi ddod i’r amlwg mai mis Mehefin oedd yr ail fis gwaethaf ar gyfer amserau ymateb ambiwlansys ar gofnod yng Nghymru, a bod ôl-groniad y Gwasanaeth Iechyd ar gyfer mis Mai wedi cynyddu 15,000 mewn un mis, gyda 722,147 o lwybrau cleifion, sy’n gyfystyr ag un ym mhob pump o’r boblogaeth.
Mae 65,053 o bobol bellach wedi bod yn aros dros ddwy flynedd – sydd i fyny 9,775 o’r llynedd – o’i gymharu ag 8,028 yn Lloegr.
Hefyd, mae un ym mhob pedwar o gleifion yng Nghymru’n aros dros flwyddyn am driniaeth – un ym mhob 20 yw’r ffigwr yn Lloegr.
‘Patrwm cryf o dan-berfformio’
“Mae’r ffaith fod pobol wedi aros dros bedair awr ar fwy na dwy filiwn o achlysuron dros y 13 mlynedd diwethaf, a bod bron i hanner miliwn ohonyn nhw wedi aros yn hirach nag y dywedodd y Llywodraeth y dylai neb orfod aros, yn dangos patrwm cryf o wasanaethau cyhoeddus yn tan-berfformio o dan weinidogion Llafur,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae methu â bwrw eu targedau eu hunain ers dros ddegawd yn gyfaddefiad o fethiant ond, yn bwysicach, mae pob un o’r achosion hyn yn achlysur pan gafodd rhywun eu gadael mewn braw a phoen gyda staff yn ceisio gwneud eu gorau mewn system sy’n siomi’r ddwy ochr drosodd a thro.
“Tra bod hyn yn y gorffennol, does dim rhaid mai’r dyfodol yw e, a dyna pam fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i gyflwyno canolfannau llawfeddygol rhanbarthol ac i gyflwyno cynllun adferiad Covid i leddfu amserau aros – ond yn anghredadwy, fe ddywedodd y gweinidog iechyd diwethf fod hynny’n ffôl.
“Mae angen i Lafur fynd i’r afael â’r Gwasanaeth Iechyd, a pheidio â thorri pob record anghywir.”