Mae aelodau NFU Cymru Ynys Môn yn defnyddio Sioe Ynys Môn i leisio eu pryderon am gynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy’n gofyn am 10% o orchudd coed ar fferm.

Mae’r cynigion, a gafodd eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf, wedi codi cwestiynau ynglŷn â gallu rhai ffermydd ar yr ynys i gyrraedd y targed uchelgeisiol.

Mae nifer o ffactorau, gan gynnwys topograffeg unigryw’r ynys yn ogystal â’i chapasiti cynhyrchiol uchel, yn cyfrannu at bryderon ffermwyr.

Mae’r angen am hyblygrwydd o gwmpas y targed o 10% wedi’i amlygu’n flaenorol gan NFU Cymru.

Bydd llawer o ffermydd ar draws Cymru eisoes yn cyrraedd neu’n rhagori ar y trothwy 10%, fodd bynnag i eraill – megis ffermwyr nad ydyn nhw’n berchen ar y tir maen nhw’n ei ffermio, deiliaid hawliau tir comin neu’r rhai mae eu gallu i blannu coed yn cael ei rwystro oherwydd eu lleoliad h.y. Ynys Môn – efallai na fydd yn bosibl ymrwymo i orchudd coed o 10%.

Y llynedd, lansiodd NFU Cymru eu strategaeth eu hunain gyda’r ddogfen Tyfu Gyda’n Gilydd.

Mae’r strategaeth sy’n cael ei harwain gan atebion yn amlinellu’r cyfraniad y gall ffermio yng Nghymru ei wneud i ddyheadau plannu coed Llywodraeth Cymru drwy roi blaenoriaeth i integreiddio coed i systemau ffermio, yn hytrach na’u disodli.

‘Pob ardal o Gymru yn unigryw’

Dywed Brian Bown, cadeirydd Sir Fôn NFU Cymru, fod “Ynys Môn yn cael ei hystyried yn fasged fara Cymru”.

“Mae ardal fawr o’r ynys yn cael ei hystyried yn dir amaeth o ansawdd uchel, felly gallwn gynhyrchu cnwd da o’r tir,” meddai.

“Fodd bynnag, mae ein hamlygiad i wyntoedd arfordirol yn golygu y gall tyfu coed fod yn anodd.

“Er bod ffermwyr Cymru yn cydnabod yn llwyr y rhan y gall plannu coed ei chwarae wrth helpu i fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd, rhaid peidio â chyrraedd targedau plannu coed ar draul lleihau gallu amaethyddiaeth Cymru i gynhyrchu bwyd.

“Mae hwn yn bwynt arbennig o berthnasol o ystyried y prinder bwyd ledled y byd.

“Mae ffermwyr Ynys Môn eisoes yn chwarae rhan gadarnhaol mewn dal carbon trwy reoli pridd a glaswelltir yn dda, yn ogystal ag yn ein gwrychoedd a’n cynefinoedd lled-naturiol, gyda’r potensial i wneud mwy.

“Fodd bynnag, mae pob ardal o Gymru yn unigryw a rhaid cymryd hyn i ystyriaeth wrth lunio’r cynllun terfynol.

“Rhaid bwrw ymlaen â thargedau ar gyfer gorchudd coed mewn ffordd sy’n diogelu cynhyrchiant bwyd a’n cymunedau gwledig ar gyfer y manteision economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol lluosog y mae ffermio yng Nghymru yn eu darparu.

“Byddwn yn annog ffermwyr i gymryd rhan ym mhroses gyd-ddylunio’r cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod llais ffermio’n cael ei glywed a bod ein pryderon yn cael eu hystyried cyn ei weithredu’n derfynol. Gall ffermwyr gofrestru i fod yn rhan o’r broses hon ar wefan Llywodraeth Cymru.”