Mae Jane Dodds yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddileu’r cynnydd mewn prisiau ynni fydd yn cael ei gyflwyno ym mis Hydref, gan ddweud y byddai bwrw ymlaen â’r cynllun yn “esgeulus”.
Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, byddai dileu’r cynnydd yn arbed £1,683 y flwyddyn i aelwydydd ledled y wlad.
Ond mae disgwyl i’r cynnydd o 70% gael ei gyhoeddi gan Ofgem yn ddiweddarach y mis hwn, tra byddai cynllun y Democratiaid Rhyddfrydol i’w ddileu yn gweld Llywodraeth San Steffan yn talu’r diffyg i gyflenwyr ynni fel bod modd iddyn nhw gyflenwi ynni am y prisiau presennol.
Yn ôl y blaid, dylid codi’r diffyg o £36bn drwy ehangu’r dreth ffawdelw ar elw cwmnïau olew a nwy, a defnyddio’r refeniw uwch na’r disgwyl ar Dreth Ar Werth (VAT) sydd wedi’i gasglu o ganlyniad i’r cynnydd mewn chwyddiant.
Mae’r blaid hefyd yn galw am fwy o gefnogaeth i aelwydydd bregus ac incwm isel, gan gynnwys dyblu’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes i £300 a’i ymestyn i bawb sy’n derbyn Credyd Cynhwysol a Chredyd Pensiwn, a buddsoddi mewn ynysu aelwydydd sy’n dioddef tlodi tanwydd er mwyn gostwng prisiau yn y pen draw.
‘Y gaeaf mwyaf anodd ers degawdau’
“Byddai’r ddau ymgeisydd i arwain y Blaid Geidwadol [Rishi Sunak a Liz Truss] yn esgeulus pe baen nhw wir yn bwriadu i’r cynnydd yn y cap prisiau fis Hydref fynd yn ei flaen yn ôl y cynllun,” meddai Jane Dodds.
“Does gan y naill ymgeisydd na’r llall ddim clem sut i helpu teuluoedd a phensiynwyr drwy’r hyn a allai fod y gaeaf mwyaf anodd ers degawdau.
“Yn yr un modd, mae Aelodau Seneddol Ceidwadol ac Aelodau Ceidwadol o’r Senedd wedi methu â sefyll i fyny i’w penaethiaid analluog ac wedi gadael i’w hetholwyr ddioddef canlyniadau’r diffyg gweithredu.
“Mae angen camau breision a brys arnom i helpu teuluoedd i dalu eu biliau ac i wresogi eu cartrefi y gaeaf hwn. Does dim dewis arall.
“Mae biliau ynni eisoes wedi cynyddu gan £700 eleni, a phrin fod gweinidogion Ceidwadol wedi codi bys i helpu.
“Yn syml iawn, allwn ni ddim fforddio rhagor o ddiffyg gweithredu yn wyneb cynnydd hyd yn oed yn fwy ym mis Hydref.
“Mae hwn yn argyfwng, a rhaid i’r Llywodraeth gamu i mewn rŵan i arbed £1,600 i deuluoedd a phensiynwyr drwy ganslo’r cynnydd mewn biliau ynni sydd wedi’i gynllunio fis Hydref yma.”