Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi ei farn ar adroddiad ar gyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21.
Mae e wedi rhoi amod ar ei farn archwilio oherwydd bod gwariant perthnasol yn ymwneud â rhai grantiau busnes wedi’i gynnwys yng nghyfrifon 2020-21 yn lle cyfrifon 2019-20, bod hepgor perthnasol o ran gwariant yn ymwneud â rhwymedigaethau treth o ran pensiynau clinigwyr, ac nad oes digon o dystiolaeth briodol am drefniadau gwaith y cyn-Ysgrifennydd Parhaol o fis Ebrill 2018 ymlaen ac o ganlyniad a oedd ganddi hawl i gael taliad ac a gafodd y taliad hwnnw ei awdurdodi’n briodol.
“Roedd 2020-21 yn flwyddyn ryfeddol, gydag alldro adnoddau net Llywodraeth Cymru a adroddwyd yn gynyddu o £18.1bn yn 2019-20 i £25.2bn yn 2020-21,” meddai Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru.
“Mae fy marn archwilio a’r adroddiad ar gyfrifon Llywodraeth Cymru yn dangos y materion a nodwyd yn ein gwaith.
“Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth am y materion hyn i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd.”