Mae Aelod Ceidwadol o’r Senedd sydd ar y Pwyllgor Safonau yn galw am gynnwys y cyfarfod anffurfiol rhwng gweinidogion Llafur a pherchennog Gŵyl y Dyn Gwyrdd mewn ymchwiliad i lobïo yng Nghymru.

Mae llefarydd ar ran Prif Weinidog Cymru’n dweud ei fod e wedi gofyn i’r Ysgrifennydd Parhaol edrych ar amgylchiadau presenoldeb dau weinidog yn yr ŵyl, ar ôl i Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, godi pryderon am ymweliad dau weinidog â’r ŵyl.

Ond mae Llywodraeth Cymru’n mynnu eu bod nhw yno “mewn rhinwedd bersonol”.

Yn ôl adroddiadau dros y penwythnos, aeth y gweinidogion i gartref Cathy Owens, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni Deryn Consulting, i gynnal cyfarfod â Fiona Stewart, perchennog yr ŵyl, wrth i ffrae fynd rhagddi yn sgil y penderfyniad i wario £4.25m o arian cyhoeddus i brynu fferm i gynnal yr ŵyl, yn ôl WalesOnline.

Mae Cathy Owens wedi datgan fod yr ŵyl ymhlith ei chleientiaid, ac er nad oedd angen i Julie James a Jeremy Miles roi gwybod am y cyfarfod gan eu bod nhw yno mewn rhinwedd bersonol ac nid yn ffurfiol ar ran y Llywodraeth, mae Mark Drakeford bellach yn awyddus i gynnal ymchwiliad i amgylchiadau’r cyfarfod ac i ystyried a oes angen newid y Cod Gweinidogol.

‘Sgandal’

Yn ôl Natasha Asghar, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd, mae’r helynt eisoes yn “sgandal”, ac mae hi’n galw am “gymaint o dryloywder â phosib, naill ai i roi hyder i bobol fod Llywodraeth Cymru wedi ymddwyn yn briodol neu i amlygu drwgweithredu a gweld bod cyfiawnder”.

“Os yw’r Prif Weinidog – dyn sy’n dueddol o beidio edrych ar weithredoedd ei lywodraeth ei hun, sy’n amlwg o atal ymchwiliad Covid penodol i Gymru – yn meddwl bod y cyfarfod hwn yn deilwng o ymchwiliad, yna dw i’n credu y dylai’r Pwyllgor Safonau ymchwilio i hyn fel rhan o’u hymchwiliad i lobïo,” meddai.

Mae hi wedi ysgrifennu at gadeirydd y pwyllgor yn gofyn bod y cyfarfod yn cael ei gynnwys yn yr ymchwiliad gan ei fod wedi codi pryderon ynghylch y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi prynu fferm Gilestone yn ddiweddar er mwyn cael cynnal yr ŵyl yno.

Roedd hyn er nad oedd gan yr ŵyl fwriad i symud yno.

 

Llwyfan y Mynydd, Gŵyl y Dyn Gwyrdd

Gŵyl y Dyn Gwyrdd: gofyn am edrych ar amgylchiadau ymweliad dau weinidog yn Llywodraeth Cymru

Daw hyn “er bod y gweinidogion wedi mynychu’r digwyddiad cymdeithasol hwn mewn rhinwedd bersonol”