Mae Janet Finch-Saunders, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Aberconwy, yn galw am weithredu brys gan Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yn dilyn adroddiad damniol arall am adran frys Ysbyty Glan Clwyd.

Mae adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi tynnu sylw at yr angen am welliannau brys yn yr uned, gan gynnwys y gwendidau canlynol:

  • Doedd peryglon iechyd a diogelwch ddim yn cael eu rheoli’n briodol yn yr uned frys
  • doedd camau atal a rheoli haint ddim yn ddigon cadarn mewn ystafelloedd clinigol a thriniaeth
  • Roedd cewyll troli metel, paled pren, deunyddiau adeiladu a thrap llygod yn yr ardal amlbwrpas
  • Gallai plant gael mynediad i ardaloedd niweidiol
  • Doedd y rhan fwyaf o gypyrddau mewn ardaloedd i blant ddim wedi’u cloi. Roedd y rhain yn cynnwys meddyginiaeth bresgripsiwn yn unig, cyfarpar meddygol, nodwyddau a chyfarpar meddygol arall. Roedd hyn yn peri perygl sylweddol i gleifion, staff ac ymwelwyr
  • Doedd y trefniadau ar gyfer asesu, monitro, arsylwi a chynyddu triniaethau cleifion sâl neu’r rhai oedd yn gwaethygu ddim yn ddigon cadarn nac effeithiol, ac roedd safon nodiadau cleifion yn wael ac yn absennol yn y rhan fwyaf o achosion
  • Roedd nifer o staff yr adran frys yn dweud nad oedden nhw’n hapus ac yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’u llwyth gwaith, ac yn teimlo nad oedden nhw’n cael digon o gefnogaeth gan reolwyr uwch yr ysbyty

‘Newyddion gofidus pellach’

“Mae’r adroddiad hwn yn newyddion gofidus pellach i’m hetholwyr sy’n dibynnu ar Glan Clwyd,” meddai Janet Finch-Saunders.

“Dw i wir yn teimlo y bydd nifer nawr yn penderfynu teithio i Fangor am ofal pe bai argyfwng yn codi.

“Yn bwysig, mae’r adroddiad wedi cydnabod fod yr adran frys yn amgylchfyd llawn straen i rai staff, oedd yn gweithio y tu hwnt i’r galw mewn amodau heriol.

“Mae eu hymdrechion i ofalu am bobol yng ngogledd Cymru’n cael eu gwerthfawrogi, a dw i’n benderfynol y dylai Llywodraeth Cymru weithredu i wella’r ysbyty, nid yn unig ar gyfer cleifion ond hefyd ar gyfer staff sy’n ceisio’u gorau mewn amgylchiadau eithriadol.

“Mae nifer o bwyntiau’n sefyll allan i mi, gan gynnwys yr hyn dw i’n credu sy’n gyfystyr â methiant o ran arweiniad.

“Fel mae’r Arolygiaeth Iechyd wedi’i nodi, fe fu ychydig iawn o gynnydd o ran meysydd gwelliant a gafodd eu nodi yn ystod y Gwiriad Safon blaenorol, er gwaetha’r ffaith fod y bwrdd iechyd wedi darparu cynllun gweithredu a sicrwydd fod materion wedi gwella.

“Felly mae’n ymddangos fod gennym ni sefyllfa lle mae’r bwrdd iechyd yn rhoi sicrwydd fod yna welliannau pan nad oes yna rai mewn gwirionedd.

“Mae’n amlwg nad yw’r model presennol yn gweithio, na chwaith ymyrraeth wedi’i thargedu gan Lywodraeth Cymru.”

Mae hi’n galw ar Eluned Morgan i redeg ymgyrch i lenwi’r mwy na 600 o swyddi gwag ym meysydd nyrsio a bydwreigiaeth er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r sefyllfa benodol honno.

Yn rhan o hynny, mae hi’n galw am strategaeth i geisio cadw staff a blaenoriaethu gofal diogel ac effeithiol i gleifion, ac am gymryd camau ar unwaith i leihau’r pwysau ar unedau brys y gogledd, “yn enwedig Glan Clwyd”.

“Mae’n hollol warthus fod yna drigolion yn Aberconwy sy’n mynd i Ysbyty Llandudno am gymorth, ond yn cael eu hanfon yn eu blaenau wedyn i adran frys Glan Clwyd neu Gwynedd,” meddai.

“Drwy gynyddu’r gwasanaeth y gall MIU ei gynnig yn Llandudno, byddai llai o angen i drosglwyddo cleifion i’r adrannau brys mawr.”

 

“Wythnos arall ac adroddiad damniol arall”

Pleidiau’n ymateb i adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar wasanaethau Ysbyty Glan Clwyd