Byddwch wedi sylwi o bosib ar ymgyrch undonog, diddychymyg ond penderfynol y Ceidwadwyr yn erbyn cynyddu nifer aelodau ein Senedd o 60 i 96.
Rwy’n cydnabod yn syth mai cytundeb gwleidyddol rhwng Plaid Cymru a Llafur sy’n galw am y diwygiad. Ond mae hyn oherwydd fod gwir angen ymarferol am fwy o Aelodau, o ran gwaith y Senedd o ddydd i ddydd, sicrhau dewis gwell o ddarpar weinidogion a datblygu cynrychiolaeth fwy cyfrannol.
Golyga’r nifer presennol fod rhai meincwyr cefn yn aelodau o sawl pwyllgor craffu. Mae angen meithrin arbenigedd er craffu yn effeithiol a dal llywodraeth i gyfri. Rhaid meistroli’r pwnc, nid darllen cwestiynau mae eraill wedi eu paratoi. Rwy’n cofio pwyllgor ar y cyd rhwng San Steffan a Chaerdydd yn nyddiau cynnar y Cynulliad pan ddarllenodd AC gwestiwn hirfaith, ond gan faglu a methu cynnwys y frawddeg allweddol yn gofyn ‘paham’. Dagrau pethau oedd fod y Gweinidog, union mor ddi-glem, wedi darllen yr ateb a baratowyd, yn amlwg heb sylwi ar y diffyg cwestiwn. Ni ddylai fod lle i’r fath bantomeim yn ein Senedd Genedlaethol.
Pwll bach ag ambell sgodyn go ryfedd
Yna mae angen dewis gwell o ddarpar weinidogion. Pwll bach iawn ydy tua 30 o aelodau’r blaid lywodraethol. Ac yn niffyg unrhywun arall, gwelwyd ambell i sgodyn go ryfedd yn smalio bod yn weinidog, ac ambell i sliwan na ddylai fod o fewn can milltir i rym gwleidyddol yn llithro’n seimlyd i fewn.
Yna (heb fynd i drafod diwinyddiaeth systemau ethol), tydi’r drefn sydd ohoni ddim yn arbennig o gyfrannol. Byddai’n well efo 96, fel y gwelir yn yr Alban (poblogaeth 5.5m / nifer ASau 129), a Gogledd Iwerddon (poblogaeth 1.8m / nifer Aelodau Cynulliad 90). Mae gan Loegr boblogaeth o 56m a 533 AS – ond wedi eu hethol o dan system wahanol, salach fyth. Gyda llaw, i mi, trefn ethol STV efo rhestr agored fyddai orau. Ond awn ni ddim ar ôl hynny rwan rhag eich gyrru chi i’r madws.
Mae rhain yn ddadleuon digon cyfarwydd. Ond tydi’r Ceidwadwyr ddim yn eu hateb. Eu cwyn amrwd gyda llygaid at bennawd bachog, ydy’r gost honedig (£100m medda nhw – ond ‘medda nhw’ ydy hynny cofiwch). Cymharwch hyn â chost trwsio Palas San Steffan – sydd ar hyn o bryd tua £20,000,000,000 – ia, £20bn, a hynny heb ddenu y wich leiaf oddi wrth ein cydwladwyr glas.
Ystafell aros Duw ym Mhalas y Botel Sôs
Gyda llaw, pan oedd Adam Price yn Aelod yn Llundain rhoddodd gynnig gerbron (gyda minnau’n dal y gannwyll) i symud y job lot i safle tir llwyd rhad yn Lerpwl a throi Palas y Botel Sôs yn atyniad i dwristiaid. Ond gwario’n wyllt ar ogof ladron ym mhrifddinas yr ymherodraeth ydy dewis cadarn Torïaid Cymru.
Ac yn olaf, chlywais i ddim gwich ychwaith ganddynt am gost y twf enfawr yn nifer aelodau anetholedig Ty’r Argwyddi, gyda mwy nag ambell un M’lord newydd yn dderyn go frith, a mwy fyth yn gyfranwyr hael i goffrau’r Torïaid. Dim smic am hynny gan eu ffrindiau yng Nghaerdydd. Ond wedyn, pa le gwell i Dori ymddeol iddo wedi oes o lafur caled mewn gwlad na etholodd lywodraeth Dorïaidd erioed na meinciau Ceidwadol swrth ond proffidiol ‘ystafell aros Duw’.