Mae’n rhaid i’r diwydiant twristiaeth weithredu’n gyflymach i leihau ei allyriadau carbon, yn ôl arbenigwraig yn y maes.

Nicki Page ydy cyd-sefydlydd cwmni TLC Harmony ym Mhenarth, menter sy’n anelu at sicrhau bod twristiaeth dros y byd yn effeithio’n gadarnhaol ar yr hinsawdd, bioamrywiaeth a chymunedau.

Mae’r fenter wedi datblygu arf i fesur effaith economaidd difrod y diwydiant twristiaeth ar yr hinsawdd, ac mae’n cael ei dreialu yn y Deyrnas Unedig, y Dwyrain Canol ac Asia ar hyn o bryd.

Ym mis Medi, bydd Nicki Page a’i phartner yn y fenter, Leo Downer, yn cynnal cynhadledd fydd yn dod ag arweinwyr byd ynghyd i drafod twristiaeth gynaliadwy, gan gynnwys cyn-ysgrifennydd cyffredinol Sefydliad Twristiaeth y Byd (UNWTO), Dr Taleb Rifai; Dirprwy Arlywydd El Salvador; a Phrif Weithredwr y Gynghrair Lletygarwch Cynaliadwy.

Mae Nicki Page wedi bod yn gweithio yn y maes ers 30 mlynedd, ac wedi treulio cyfnod helaeth yn y Dwyrain Canol cyn dychwelyd i Gymru, gyda’i busnes.

“O ganlyniad i hynny, pan ddes i’n ôl i Gymru ar ôl 30 mlynedd, fe wnaethon ni ddechrau edrych ar y byd a gweld bod yna gymaint o alw i wneud pethau’n wahanol,” meddai Nicki Page, sydd wedi bod yn canolbwyntio ar hyrwyddo a marchnata lleoliadau a mentrau twristaidd wrth ei gwaith.

“Yn ystod Covid, daeth i’r amlwg mai ein diwydiant, twristiaeth, yw un o’r rhai mwyaf yn y byd. Yn ystod yr adeg honno doedd 200m ohonom ni ddim yn gweithio.”

Cafodd y cwmni eu penodi gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i edrych ar gysyniad o’r enw ‘Harmony’, cysyniad ddatblygodd Tywysog Charles yn edrych ar sut mae pawb yn gysylltiedig â’i gilydd a sut mae natur wrth wraidd popeth.

Yn ystod y pandemig, fe wnaeth Tywysog Charles a phennaeth cynhadledd Davos sefydlu menter yn galw am ddefnyddio’r pandemig fel cyfle i ailosod yr economi fyd-eang, y ‘Great Reset’.

Roedden nhw’n rhoi pwyslais ar roi natur wrth wraidd penderfyniad, ac fe wnaeth TLC Harmony sylwi eu bod nhw’n adnabod y byd twristiaeth a’i bod hi’n bosib iddyn nhw gynnal menter ‘Reset’ annibynnol ei hunain, gyda’u partner, Dr Taleb Rifai.

Asesiadau economaidd

Gan ddefnyddio’r un patrwm ag y mae Trysorlys Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei ddefnyddio wrth wneud penderfyniadau – sef asesu gwerth economaidd canlyniadau – aeth Nicki Page a Leo Downer ati i greu system fyddai’n asesu canlyniadau ariannol difrod y diwydiant twristiaeth.

“Arian sy’n rhedeg y llywodraeth fel y mae’n rhedeg busnes. Mae Trysorlys y Deyrnas Unedig yn edrych ar bopeth o safbwynt ariannol,” meddai Nicki Page.

“Rydyn ni wedi defnyddio’r ffordd honno o feddwl a’i defnyddio yn TLC yn y byd twristiaeth, lletygarwch a theithio felly rydyn ni’n gallu rhoi gwerth economaidd ar y difrod rydyn ni’n ei wneud pan rydyn ni’n teithio, hedfan, aros mewn gwesty. Neu’r difrod mae gwesty’n ei wneud, neu berchennog sy’n adeiladu lleoliad newydd.

“Yn aml rydyn ni’n meddwl bod compassion yn arwain pethau, ac ein bod ni i gyd yn caru natur yn llwyr a ddim eisiau ei weld yn diflannu, ond yn nhermau busnes, yn aml iawn, mae’n rhaid profi’r economeg tu ôl i benderfyniadau – rydyn ni wedi gwneud hynny yn TLC, ac rydyn ni’n galw fo’n GABI.

“Rydyn ni’n rhoi’r arf hwnnw am ddim i’r byd, llywodraethau, grwpiau o westai. Mae’n cael ei brofi ar y funud yn y Deyrnas Unedig, y Dwyrain Canol ac Asia.

“Ei bwrpas ydy creu ffordd well o fesur a lleihau’r niwed. Oni bai eich bod chi’n mesur yr hyn rydych chi’n ei wneud, fedrwch chi ddim newid. Dydych chi ddim yn gwybod os ydych chi wedi newid mewn ffordd gadarnhaol ai peidio.

“Rydyn ni’n asesu’r canlyniadau. A’r cwestiwn ydy: Ydych chi’n ‘planet positive’ neu ddim? Fyddan ni’n dangos, ar sail fisol, lle ydych chi ar y daith yna at sero net.

“Mae ein byd yn araf yn newid, ac mae’n rhaid i ni gyflymu’r byd twristiaeth er mwyn cyrraedd nod Llywodraeth y Deyrnas Unedig o gyrraedd allyriadau carbon sero net erbyn 2030. Fel mae pethau’n mynd, fyddan ni ddim yn cyrraedd hynny.”

‘Dysgu gan y gorau’

Cafodd digwyddiad cyntaf Reset ei gynnal y llynedd, a bydd yr ail yn cael ei gynnal yn Llundain ar Fedi 16, ac yn cael ei ffrydio’n fyw, pan fydd arweinwyr byd ac arbenigwyr ar dwristiaeth gynaliadwy yn dod ynghyd i rannu syniadau a gwybodaeth.

“Rydyn ni wedi cyfyngu’r digwyddiad byw oherwydd dydyn ni ddim eisiau annog pobol i hedfan rownd y byd er mwyn cynhadledd pan mae’n bosib ei ffrydio. Rydyn ni’n annog pobol i’w ffrydio,” meddai Nicki Page.

“Dydyn ni ddim yn credu bod rhaid mynd i ffwrdd ac ailddyfeisio syniadau. Rydyn ni angen dysgu a chopïo ac addasu gan bobol eraill sydd gan lawer mwy o arian ac sydd wrthi’n barod ac yn gweld y canlyniadau.

“Rydyn ni’n gwneud hyn fel galwad er mwyn gweithredu, er mwyn gweithredu ar y cyd. Mae TLC yn gweld ein bod ni ar groesffordd o ran twristiaeth, a’r hyn rydyn ni ei angen yw diwygiad. Rydyn ni’n arwain diwygiad Cymraeg Reset er mwyn ail-greu ac ail-ddychmygu ac ailgyflwyno ffordd newydd o gynnal twristiaeth fel ein bod ni’n gallu lleihau effaith ein diwydiant – sy’n gyfrifol am 8% o allyriadau nwyon tŷ gwydr, sydd ddim gymaint ag eraill ond mae e dal yn lot.

“Gallwn ni leihau’r difrod hwnnw drwy barhau i deithio, rhywbeth yr ydyn ni i gyd wedi’i wneud ers cyn cof. Dydyn ni ddim yn dweud y dylai pobol eistedd yn eu cartrefi a pheidio gadael i genedlaethau’r dyfodol fynd i deithio’r byd.

“Pan rydych chi’n edrych ar yr economeg, y cyfoethog sy’n achosi’r mwyaf o ddifrod a nhw yw’r rhai sydd angen talu’r mwyaf er mwyn lleihau’r difrod ar deithio moethus.”

Galwad i Lywodraeth Cymru

Bu trafodaethau agored gyda Llywodraeth Cymru ynghylch cynnal y digwyddiad yma, ond roedd y llywodraeth “yn araf yn ymateb”, meddai Nicki Page, felly fe benderfynon nhw ei symud i Lundain.

“Pan rydyn ni’n mynd ar ras at sero-net, fel TLC rydyn ni’n mynd mewn i’r ras i ennill. Rydyn ni wedi sylweddoli bod eraill sydd yn y ras y gyrraedd sero-net ddim yn rasio mor gyflym ag y gallan nhw, yn ein barn ni,” meddai.

“Rydyn ni wedi sefydlu Reset TLC i gyflymu’r broses. Dydyn ni ddim yn gweld bod y ras at sero-net o fewn twristiaeth yn cael ei harwain yn ddigon cryf nac yn ddigon cyflym.

“Dydy’r hyn mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud ddim digon da. Mae ganddyn nhw’r Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol, ond be’ maen nhw’n wneud efo hi a sut mae hynny’n creu diwydiant twristiaeth newydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol?

“Dydy Cymru ddim yn gweiddi ddigon, dydyn nhw ddim yn cyfathrebu digon.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.