Mae’r camau nesaf er mwyn dewis olynwr i gynghorydd Llafur lleol Llanbedr Pont Steffan a fu farw’n sydyn yn gynharach eleni wedi dechrau.

Cafodd y cynghorydd sir poblogaidd Hag Harris ei ailethol i gynrychioli Llanbed heb wrthwynebiad yn ystod yr etholiadau lleol ym mis Mai, ond bu farw’n hwyrach yn ystod y mis.

Roedd y Cynghorydd Harris, a fu’n faer deirgwaith, wedi cynrychioli Llanbed ar Gyngor Sir Ceredigion ers iddo gael ei ffurfio yn 1995, a bu’n eistedd ar y cyngor tref a chymuned hefyd.

Ynghyd â hynny, roedd yn adnabyddus am redeg siop gerddoriaeth yn y dref hyd nes 2016.

Fodd bynnag, mae angen ymgeisydd arall i gynrychioli’r ward fuodd y Cynghorydd Harris yn ei chynrychioli am 25 mlynedd, ac yn ôl y cyngor sir bydd manylion am yr is-etholiad ar gael “yn fuan”.

Caiff is-etholiad ei gynnal pan ddaw sedd yn wag rhwng etholiadau, ac efallai y bydd trigolion Llanbed yn pleidleisio’n fuan, yn dibynnu ar faint o ymgeiswyr fydd yn trio.

Cafodd ymholiadau blaenorol am fanylion ynghylch dyddiad is-etholiad posib eu gohirio.

“Er parch tuag at deulu’r Cynghorydd Hag Harris, ni fydd penderfyniad yn cael ei wneud o ran y trefniadau ar gyfer isetholiad hyd nes ar ôl yr angladd,” meddai llefarydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion ddoe (dydd Llun, Awst 8) y “bydd gwybodaeth am isetholiad Llanbed ar gael ar wefan y Cyngor yn fuan.”

Hag Harris

“Colled anferth” ar ôl Hag Harris oedd yn “un ohonom ni”

Huw Bebb

“Roedd e’n fwy na rhywun oeddet ti’n gallu cael peint a mwynhau ei gwmni fe, roedd e’n werthfawr fel person”