Mae llefarydd ar ran Prif Weinidog Cymru’n dweud ei fod e wedi gofyn i’r Ysgrifennydd Parhaol edrych ar amgylchiadau presenoldeb dau weinidog yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd.

Daw hyn ar ôl i Mabon ap Gwynfor godi pryderon am ymweliad dau weinidog â’r ŵyl, ond mae Llywodraeth Cymru’n mynnu eu bod nhw yno “mewn rhinwedd bersonol”.

Yn ôl adroddiadau dros y penwythnos, aeth y gweinidogion i gartref Cathy Owens, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni Deryn Consulting, i gynnal cyfarfod â Fiona Stewart, perchennog yr ŵyl, wrth i ffrae fynd rhagddi yn sgil y penderfyniad i wario £4.25m o arian cyhoeddus i brynu fferm i gynnal yr ŵyl, yn ôl WalesOnline.

Mae Cathy Owens wedi datgan fod yr ŵyl ymhlith ei chleientiaid, ac er nad oedd angen i Julie James a Jeremy Miles roi gwybod am y cyfarfod gan eu bod nhw yno mewn rhinwedd bersonol ac nid yn ffurfiol ar ran y Llywodraeth, mae Mark Drakeford bellach yn awyddus i gynnal ymchwiliad i amgylchiadau’r cyfarfod ac i ystyried a oes angen newid y Cod Gweinidogol.

Torri’r Cod Gweinidogol?

“Gallai hyn fod yn doriad difrifol o’r Côd Gweinidogol, sy’n nodi ‘na ddylai unrhyw Weinidog dderbyn rhoddion, lletygarwch oddi wrth unrhyw un mewn modd a allai ei roi o dan rwymedigaeth, neu roi’r argraff ei fod o dan rwymedigaeth’,” meddai Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, sydd wedi codi’r mater sawl gwaith gyda’r Llywodraeth.

“Cynhaliwyd y cinio cyfrinachol hwn ym mis Mai, gyda dau uwch Weinidogion y Llywodraeth, ac mae gan un ohonynt ddiddordeb uniongyrchol yn y prosiect, fis cyn i’r cwmni gyflwyno eu cynllun busnes i gyfiawnhau prynu’r fferm gan y Llywodraeth.

“Dylai hyn ganu clychau larwm, a chodi cwestiynau difrifol am farn y Gweinidogion dan sylw.

“Os yw’r adroddiadau hyn yn gywir, ni all fod yn iawn fod gan Weinidogion y Llywodraeth gyfarfodydd llechwraidd gyda phobl sydd â buddiant breintiedig ar adeg mor dyngedfennol.

“Mae angen datgelu unrhyw nodiadau a gymerwyd yn y cyfarfod hwnnw yn llawn, a thryloywder llwyr ynghylch cynnwys y trafodaethau hynny.

“Bydd hyn yn effeithio ar hyder y cyhoedd yn y llywodraeth.

“Mae’n rhaid i Brif Weinidog Cymru dderbyn fod hyn yn doriad na fydd yn cael ei oddef, a gosod esiampl.”

Ymateb y Llywodraeth

“Er bod y gweinidogion wedi mynychu’r digwyddiad cymdeithasol hwn mewn rhinwedd bersonol, mae Prif Weinidog Cymru wedi gofyn i’r Ysgrifennydd Parhaol edrych i’r amgylchiadau ynghylch eu presenoldeb yno,” meddai llefarydd ar ran Mark Drakeford.

“Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi gofyn i’r Ysgrifennydd Parhaol ystyried a oes angen gwneud unrhyw welliannau i’r Cod Gweinidogol i sicrhau bod yr holl ryngweithio gyda lobïwyr yn cael ei gofnodi’n briodol.”