Mae cwmni cyfreithiol Darwin Gray yn dweud bod yr apêl yn erbyn Cyngor Abertawe dros werthu safle hen ysgol gynradd Gymraeg yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i awdurdodau lleol gynnal asesiad llawn i’r effaith bosibl y gall gwaredu asedau cymunedol ei chael ar y Gymraeg.

Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, a gafodd eu cynrychioli gan y cwmni cyfreithiol Darwin Gray, wedi llwyddo i amddiffyn eu hapêl yn erbyn gwerthu’r cyn ysgol Gymraeg.

Cafodd ymchwiliad ei lansio gan Gomisiynydd y Gymraeg ar ôl i gŵyn gael ei chodi am benderfyniad Cyngor Abertawe nad oedd defnydd i Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre fel ased cyhoeddus yn dilyn ei chau.

Penderfynodd y Comisiynydd nad oedd penderfyniad polisi’r Cyngor i drosglwyddo’r adeilad o berchnogaeth gyhoeddus i’r sector preifat cyn ei werthu wedi rhoi ystyriaeth briodol i effaith gwneud hynny ar y Gymraeg.

Cynsail pwysig i awdurdodau lleol eraill

Dywed Fflur Jones, Partner Rheoli Darwin Gray, sy’n cynrychioli Comisiynydd y Gymraeg, eu bod nhw’n “falch iawn o dderbyn penderfyniad Tribiwnlys y Gymraeg yn gwrthod yr apêl a gyflwynwyd gan Gyngor Dinas Abertawe yn erbyn y Comisiynydd”.

“Mae penderfyniad y Tribiwnlys a’i ffocws ar beth yw ‘penderfyniad polisi’ hefyd yn gynsail pwysig i awdurdodau lleol eraill o ran sut i ymdrin â materion o’r fath yn y dyfodol,” meddai.

Apeliodd Cyngor Abertawe i Dribiwnlys y Gymraeg, gan ddadlau nad oedd unrhyw benderfyniad polisi newydd wedi’i wneud mewn perthynas â’r trosglwyddiad, ac nad oedd Safonau’r Gymraeg yn berthnasol i’r sefyllfa.

Yn dilyn gwrandawiad ym mis Mehefin, daeth y Tribiwnlys i’r casgliad fodd bynnag fod y Cyngor wedi methu â chydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a bod eu penderfyniad mewn perthynas â throsglwyddo’r ysgol i’r sector preifat cyn ei gwerthu yn ‘benderfyniad polisi’ o dan Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Mae’r Comisiynydd yno “i ddiogelu eu buddiannau”

“Rwy’n croesawu penderfyniad y Tribiwnlys. Mae’n cadarnhau ein safbwynt ac yn golygu bod yn rhaid i’r Cyngor sicrhau ei fod yn gweithredu fel y dylai ac yn unol â Safonau’r Gymraeg mewn perthynas â phenderfyniadau o’r fath yn y dyfodol,” meddai Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd a Chyfarwyddwr Strategol Comisiynydd y Gymraeg.

“Mae’r dyfarniad yn bwysig gan fod y Tribiwnlys wedi cadarnhau bod penderfyniad polisi yn golygu mwy na dogfen ysgrifenedig a’i fod yn cynnwys penderfyniadau sy’n ymwneud â chynnal busnes sefydliad, megis rheoli adeiladau cymunedol, ailstrwythuro gwasanaethau, a chau ysgolion.

“Mae’r achos hwn yn gosod cynsail pwysig a dylai sefydliadau roi ystyriaeth ofalus i’r canlyniad.

“Bwriadaf ohebu â chyrff y sector cyhoeddus i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r penderfyniad ac i’w helpu i wella lle bo angen.

“Mae’r Comisiynydd wedi derbyn nifer cynyddol o gwynion am benderfyniadau polisi yn y blynyddoedd diwethaf. Mae gallu unigolyn i droi atom os yw’n amau ​​nad yw cyrff cyhoeddus yn dilyn arfer gorau yn bwysig.

“Mae hefyd yn bwysig bod unigolion yn gwybod ac yn deall bod y Comisiynydd yno i ddiogelu eu buddiannau.”

Ysgol Felindre, Abertawe

Ysgol Gynradd Felindre: tribiwnlys yn dyfarnu o blaid Comisiynydd y Gymraeg

Doedd Cyngor Abertawe ddim wedi ystyried yr iaith wrth werthu adeilad yr ysgol gynradd Gymraeg yn Abertawe