Mae cynlluniau i “ailgylchu ac ailbwrpasu” Parc yr Ŵyl yng Nglyn Ebwy, sydd bellach yn wag, wedi cael eu cyflwyno i gynllunwyr ym Mlaenau Gwent.
Mae Mercia Real Estate (MRE), datblygwyr eiddo yn Birmingham brynodd y safle y llynedd, eisiau troi’r parc yn “ganolfan fusnes defnydd cymysg”.
Fe wnaeth y cwmni gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar eu cynigion a ddaeth i ben ar Fehefin 16.
Mae Savills, sef asiant MRE, wedi egluro’r cynigion mewn datganiad cynllunio.
“Gweledigaeth MRE ar gyfer y ganolfan yw ailgylchu ac ailbwrpasu’r tir ac adeiladau presennol i greu canolfan fusnes defnydd cymysg,” meddai.
“Mae’r safle a gafodd ei ddatblygu’n flaenorol bellach yn gwbl wag, ond gyda pheth ailfodelu i’r adeiladau a’r ardaloedd cadarn o’u cwmpas, gall ddarparu gofod ar gyfer ystod o ddefnyddiau i greu cyflogaeth.”
Y cynllun
Mae Savills yn egluro mai prif rannau’r cynllun fyddai dymchwel nifer o’r unedau a defnyddio’r gofod llawr hwnnw ar gyfer mwy o le i iard, maes parcio, ffyrdd a llwybrau.
Byddai rhai o’r unedau’n cael eu haddasu a’r canopïau’n cael eu tynnu oddi yno.
Byddai llwybr y ganolfan ganolog yn cael arwyneb newydd er mwyn dod yn ffordd wasanaethu neu fynediad.
Byddai angen caniatâd newid defnydd hefyd ar gyfer unedau siopa fel bod darpariaeth i ddefnyddwyr Dosbarth A, B a D hefyd ar y safle.
Mae’r rhain yn cwmpasu manwerthu, gwasanaethau proffesiynol, bwyd a diod, swyddfeydd, ymchwil, hyfforddiant ac addysg, campfeydd a meithrinfa.
“Mae MRE hefyd eisiau denu defnyddwyr a allai gynnwys cymysgedd o weithgareddau – fel cownteri masnachu, cwmnïau llogi offer a gwerthwyr adeiladu,” meddai Savills.
Yn ôl y cynlluniau, bydd mynediad i’r ganolfan wedi’i hailfodelu yn dod o ddau le ar hyd Stryd y Frenhines ac allanfa ychwanegol a fydd yn cael ei chreu drwy addasu’r llwybr cerdded ar yr ochr ddeheuol.
“Bydd y llwybr rhwng y ddau deras yn cael eu troi’n ffordd fynediad mewnol a bydd iardiau sydd yno’n barod yn cael eu datblygu gydag ardaloedd newydd ar olion traed yr unedau sy’n cael eu clirio,” meddai’r datganiad.
“Mae parcio’n cael ei ddarparu drws nesaf i’r unedau sy’n aros, gydag unrhyw ofynion eraill yn cael eu diwallu yn y meysydd parcio presennol i’r gorllewin (bydd lefelau parcio’n ddibynnol ar y cymysgedd o weithgareddau).”
“Am resymau amlwg, mae cynigion MRE yn perfformio’n dda iawn yn erbyn polisi cynllunio,” meddai Savills.
“Yn eu hanfod, maen nhw’n ceisio ailgylchu tir ac adeiladu mewn lleoliad cynaliadwy i gynhyrchu gweithgarwch economaidd newydd a fydd yn creu gofod ar gyfer swyddi, cyfleusterau a buddsoddiad.”
Hanes y parc a gwyliau
Cafodd Gŵyl Gerddi ola’r Deyrnas Unedig ei chynnal ar y safle 75 erw yn 1992, ac fe ddenodd dros ddwy filiwn o ymwelwyr i Lyn Ebwy.
Syniad Michael Heseltine oedd gwyliau gerddi yn ystod ei gyfnod yn weinidog yr amgylchedd yn Llywodraeth Geidwadol y 1980au.
Roedden nhw i fod i gael eu hystyried yn symbol o “ddadeni” tir gwag mewn rhannau o’r wlad oedd wedi gweld dirywiad diwydiant trwm.
Roedd safle Parc yr Ŵyl unwaith yn gartref i weithfeydd dur a haearn oedd wedi cael eu dymchwel yn gynnar yn y 1980au.
Yn ddiweddarach, daeth y safle’n barc siopa gyda thros 30 o siopau a bwytai, gyda pharc chwarae i blant a noddfa i dylluanod.
Mae’r syniadau i adfywio’r safle’n cynnwys ei droi’n atyniad hamdden a thwristiaeth, gyda beicio mynydd, gwifrau antur, sinema a gwesty.
Yn 2020, roedd y Cyngor wedi ymchwilio i’r posibilrwydd o brynu’r safle iddyn nhw eu hunain, ond fe wnaethon nhw roi’r gorau i’r cynllun yn ddiweddarach.
Y dyddiad cau ar gyfer penderfyniad ynghylch y cynlluniau yw Awst 23.